
Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer y drydedd rownd o drwyddedu amlblecs DAB graddfa fach mewn 25 o ardaloedd ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae DAB graddfa fach yn dechnoleg flaengar sy'n darparu ffordd gost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ymuno â'r tonnau awyr digidol.
Bydd y rhaglen DAB graddfa fach yn galluogi lansio tua 200 o amlblecsau a fydd yn rhoi darpariaeth i bob un o bedair gwlad y DU. Rydym yn disgwyl y bydd y rhain yn darlledu amrywiaeth o wasanaethau radio, gan amrywio o wasanaethau cymunedol llawr gwlad i orsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau a anelir at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda.
Y mis diwethaf, gwrandawyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr oedd y cyntaf i elwa o'r chwyldro hwn mewn radio lleol wrth i lu o wasanaethau newydd fynd ar y tonnau awyr.
Diolch i dechnoleg DAB graddfa fach, bydd modd cyn bo hir i hyd yn oed yn fwy o wrandwyr diwnio i mewn i orsafoedd lleol newydd, wrth i ni agor ceisiadau trwydded heddiw ar gyfer yr ardaloedd a ganlyn:
- Bedford
- Belfast a Lisburn
- Coventry
- Darlington a Bishop Auckland
- Dundee
- Dwyrain Hull
- CaerlÅ·r
- Lincoln
- Llandudno a Betws-y-Coed
- Middlesbrough a Redcar
- Milton Keynes
- Gogledd Aberdeen
- Nottingham
- Rhydychen
- Rutland a Stamford
- Shaftesbury a Blandford Forum
- De Aberdeen
- Abertawe
- Swindon a Marlborough
- Taunton
- Warminster, Devizes a Trowbridge
- Gorllewin Hull
- Wetherby a Harrogate
- Caerefrog
- Arfordir Swydd Efrog
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 25 Ebrill 2022. Rydym wedi diweddaru ein harweiniad i ymgeiswyr (PDF, 1.7 MB).
Hefyd heddiw rydym yn cyhoeddi'r 27 o ardaloedd trwydded y bwriadwn eu hysbysebu ym mhedwaredd rownd y trwyddedau amlblecs DAB graddfa fach yn ail hanner 2022.
