Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi diweddariad ar gynnydd ei waith o gyflwyno DAB ar raddfa fach ar hyd a lled y DU dros y tair blynedd diwethaf. Hyd yma, mae 115 o drwyddedau wedi cael eu dyfarnu a 64 o amlblecsau newydd wedi cael eu lansio.
Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy’n darparu ffordd rad i orsafoedd radio masnachol, cymunedol ac arbenigol ddarlledu ar radio digidol.
Mae pob amlblecs ar raddfa fach y mae Ofcom yn ei drwyddedu yn galluogi gwasanaethau cymunedol ar lawr gwlad, gorsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, i gael presenoldeb ar y tonnau awyr digidol.
Yn bwysig iawn, mae hyn yn rhoi llwybr at DAB i orsafoedd radio cymunedol analog (FM neu AM) sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â gwasanaethau radio masnachol llai neu fwy arbenigol sydd wedi’i chael hi’n anodd cael a fforddio slotiau ar yr amlblecsau radio lleol presennol sy’n gwasanaethu ardaloedd llawer mwy.
Tair blynedd o gynnydd gyda DAB ar raddfa fach
Cyflwynodd Ofcom y cyntaf o’i drwyddedau amlblecs ar raddfa fach ym mis Mawrth 2021, ac mae bellach wedi cwblhau pum rownd o drwyddedu, gyda chweched rownd ar y gweill.
Mae’r galw am drwyddedau wedi bod yn gadarnhaol, gyda 212 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer yr 167 ardal a hysbysebwyd. Mae cant a phymtheg o drwyddedau wedi cael eu dyfarnu erbyn hyn, ac mae 64 o amlblecsau wedi cael eu lansio hyd yma. Bydd y cyfanswm hwn yn cynyddu’n sylweddol y flwyddyn nesaf, yn dilyn dyfarnu trwyddedau yn ne-ddwyrain Lloegr yn ddiweddar.
Rhyngddynt, mae’r amlblecsau a lansiwyd hyd yma yn cludo 589 o wasanaethau rhaglenni – gyda 292 o’r rheini yn wasanaethau unigryw – sef ychydig dros naw gorsaf radio fesul amlblecs ar gyfartaledd.
Gwasanaethau sydd â naws leol – rhai cymunedol a masnachol – yw’r categori mwyaf o orsafoedd unigryw (43%). Fodd bynnag, mae amlblecsau ar raddfa fach hefyd yn darparu nifer sylweddol o wasanaethau cerddoriaeth arbenigol (29%), gorsafoedd sy’n targedu cymunedau ethnig lleiafrifol a chymunedau ffydd (17%) a gorsafoedd ar gyfer ffordd o fyw neu gamau mewn bywyd (9.5%). Mae bron i ddwy ran o dair (65%) o orsafoedd yn newydd-ddyfodiaid i ddarlledu radio daearol.
Y camau nesaf
Ar hyn o bryd rydym yn asesu’r 33 cais a gyflwynwyd fel rhan o chweched rownd ein rhaglen trwyddedau amlblecs DAB ar raddfa fach. Byddwn hefyd yn cynnal dwy rownd arall, gan gynnwys ailhysbysebu rhai ardaloedd trwydded lle mae’r trwyddedeion wedi methu â lansio, neu ardaloedd lle na lwyddwyd i ddenu ceisiadau o’r blaen
Darllenwch yr adroddiad llawn ar ein gwefan.
Cyhoeddi’r cyntaf o ddyfarniadau’r chweched rownd
Heddiw, mae Ofcom hefyd yn cyhoeddi’r trwyddedau cyntaf i gael eu dyfarnu ar gyfer y chweched rownd o drwyddedau DAB ar raddfa fach. Mae’r dyfarniadau hyn ar gyfer (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig):