Mae'r adran hon yn amlinellu safonau o ran cynnwys i'w ddarlledu er mwyn gwarchod aelodau'r cyhoedd yn ddigonol rhag deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus.
(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(4)(g) a 319(2)(a),(f) ac (l) Deddf Cyfathrebiadau 2003, Erthyglau 10 a 14 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)
Rhaid darllen yr adran hon ar y cyd ag Adran Un: Diogelu pobl dan ddeunaw oed. Mae’r rheolau yn yr adran hon wedi’u dylunio nid yn unig i roi amddiffyniad digonol i oedolion ond hefyd i amddiffyn pobl dan ddeunaw oed.
Egwyddor
Sicrhau y cymhwysir safonau a dderbynnir yn gyffredinol mewn cynnwys gwasanaethau teledu a radio fel y rhoddir amddiffyniad digonol i aelodau’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus mewn gwasanaethau o’r fath.
Rheolau
Safonau a Dderbynnir yn Gyffredinol
2.1 Rhaid cymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol mewn cynnwys gwasanaethau teledu a radio a gwasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC fel y rhoddir amddiffyniad digonol i aelodau o’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus mewn gwasanaethau o’r fath.
2.2 Rhaid i raglenni neu eitemau ffeithiol neu bortreadau o faterion ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa’n sylweddol.
(Nodyn i Reol 2.2: Mae newyddion wedi’i reoleiddio o dan Adran Pump y Cod.)
2.3 Wrth gymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol, rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod deunydd a allai achosi tramgwydd wedi’i gyfiawnhau gan y cyd-destun (gweler ystyr “cyd-destun” isod). Gall deunydd o’r fath gynnwys y canlynol ond nid yw'n gyfyngedig iddynt: iaith dramgwyddus, trais, rhyw, trais rhywiol, difrïo, gofid, amharu ar urddas pobl, iaith neu driniaeth wahaniaethol (er enghraifft, ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, a phriodas a phartneriaeth sifil) a'r driniaeth a roddir i bobl y tybir y byddent yn wynebu risg o niwed sylweddol o ganlyniad iddynt gymryd rhan mewn rhaglen. Dylid hefyd ddarlledu gwybodaeth briodol os byddai o gymorth i osgoi neu leihau tramgwydd.
Ystyr “cyd-destun”
Mae cyd-destun yn cynnwys y canlynol (ond nid yw'n gyfyngedig iddynt):
- cynnwys golygyddol y rhaglen, y rhaglenni neu’r gyfres;
- y gwasanaeth y darlledir y deunydd arno;
- amser y darllediad;
- pa raglenni eraill sydd wedi’u hamserlennu cyn ac ar ôl y rhaglen neu raglenni dan sylw;
- maint y niwed neu dramgwydd sy’n debygol o gael ei achosi drwy gynnwys unrhyw fath penodol o ddeunydd mewn rhaglenni’n gyffredinol neu raglenni o fath penodol;
- maint a chyfansoddiad tebygol y gynulleidfa bosibl a disgwyliad tebygol y gynulleidfa;
- y graddau y gellir dwyn natur y cynnwys i sylw’r gynulleidfa bosibl, er enghraifft, drwy roi gwybodaeth; ac
- effaith y deunydd ar wylwyr neu wrandawyr a allai ddod ar ei draws yn ddiarwybod.
Nid yw amser ac amserlennu darllediadau yn berthnasol wrth ddarparu rhaglenni ar- alw ond, i raglenni a ddarperir ar gyfer gwasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC mae cyd-destun hefyd yn cynnwys (ond heb ei gyfyngu i) natur y mynediad i'r cynnwys e.e. a oes mesurau ar waith i atal plant rhag gwylio a/neu wrando ar y cynnwys;
Trais, ymddygiad peryglus a hunanladdiad
2.4 Rhaid i raglenni beidio â chynnwys deunydd (boed mewn rhaglenni unigol neu mewn rhaglenni o’u cymryd gyda’i gilydd) sydd, o ystyried y cyd-destun, yn cymeradwyo neu’n ‘glamoreiddio’ ymddygiad treisiol, peryglus neu dra gwrthgymdeithasol ac sy’n debygol o gymell eraill i efelychu ymddygiad o’r fath.
(Gweler Rheolau 1.11 i 1.13 yn Adran Un: Diogelu pobl dan ddeunaw oed.)
2.5 Rhaid peidio â chynnwys dulliau hunanladdiad a hunan-niwed mewn rhaglenni oni bai fod cyfiawnhad golygyddol drostynt a bod y cyd-destun hefyd yn eu cyfiawnhau.
(Gweler Rheol 1.13 yn Adran Un: Diogelu pobl dan ddeunaw oed.)
Dadreibio, yr ocwlt a’r goruwchnaturiol
2.6 Rhaid ymdrin â gwrthrychedd priodol ag unrhyw arddangosiadau o ddadreibio, yr ocwlt, y goruwchnaturiol, dewiniaeth, neu arferion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain yr honnir eu bod yn rhai go iawn (yn hytrach nag adloniant).
(Gweler Rheol 1.27 yn Adran Un: Diogelu’r Rhai dan Ddeunaw Oed, ynghylch cyfyngiadau ar amserlennu.)
2.7 Os gwneir arddangosiad o ddadreibio, yr ocwlt, y goruwchnaturiol, dewiniaeth, neu arferion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain i ddibenion adloniant, rhaid egluro hyn i wylwyr a gwrandawyr.
2.8 Rhaid peidio â chynnwys cyngor newid bywyd sydd wedi’i anelu at unigolion mewn arddangosiadau o ddadreibio, yr ocwlt, y goruwchnaturiol, dewiniaeth, neu arferion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain (pa un a honnir bod arddangosiadau o’r fath yn rhai go iawn neu eu bod i ddibenion adloniant).
(Mae rhaglenni crefyddol wedi’u heithrio rhag y rheol hon ond rhaid iddynt gydymffurfio, pa un bynnag, â’r darpariaethau yn Adran Pedwar: Crefydd. Nid yw ffilmiau, dramâu a ffuglen yn dod o dan y rheol hon fel arfer.)
Ystyr “newid bywyd”
Mae cyngor newid bywyd yn cynnwys cyngor uniongyrchol i unigolion y gallent weithredu ar ei sail neu ddibynnu arno’n rhesymol ynghylch iechyd, materion ariannol, cyflogaeth neu berthnasoedd.
Technegau hypnotig ac eraill, newyddion dynwaredol ac epilepsi ffotosensitif
2.9 Os bydd darlledwyr yn darlledu deunydd sy’n cynnwys arddangosiadau o dechnegau hypnoteiddio, rhaid iddynt weithredu gradd briodol o gyfrifoldeb er mwyn atal hypnosis a/neu adweithiau niweidiol ymysg gwylwyr a gwrandawyr. Rhaid i’r hypnotydd beidio â darlledu geiriau ei act arferol yn llawn na chael ei ddangos yn perfformio’n syth i’r camera.
2.10 Rhaid darlledu newyddion dynwaredol (er enghraifft, mewn dramâu neu mewn rhaglenni dogfen) yn y fath fodd fel nad oes posibilrwydd rhesymol y bydd y gynulleidfa’n cael ei chamarwain i gredu eu bod yn gwylio neu’n gwrando ar newyddion go iawn.
2.11 Rhaid i ddarlledwyr beidio â defnyddio technegau sy’n manteisio ar y posibilrwydd o gyfleu neges i wylwyr neu wrandawyr, neu o ddylanwadu ar eu meddwl fel arall heb iddynt fod yn ymwybodol, neu’n llwyr ymwybodol, o’r hyn sydd wedi digwydd.
2.12 Rhaid i ddarlledwyr teledu ofalu am gadw lefel isel o risg i wylwyr sydd ag epilepsi ffotosensitif. Mewn achosion lle nad yw’n rhesymol ymarferol i ddilyn arweiniad Ofcom (gweler gwefan Ofcom), a lle y gall darlledwyr ddangos bod cyfiawnhad golygyddol dros ddarlledu patrymau a/neu oleuadau sy’n fflachio, dylid rhoi rhybudd digonol i wylwyr ar lafar a hefyd, os yw’n briodol, ar ffurf testun ar ddechrau’r rhaglen neu’r eitem mewn rhaglen.
Cystadlaethau a ddarlledir a phleidleisio
2.13 Rhaid i bleidleisio a chystadlaethau a ddarlledir gael eu cynnal yn deg.
2.14 Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu camarwain yn sylweddol am unrhyw bleidleisio neu gystadleuaeth a ddarlledir.
2.15 Rhaid i ddarlledwyr lunio rheolau ar gyfer pleidlais neu gystadleuaeth a ddarlledir. Rhaid i’r rheolau hyn fod yn glir a rhaid rhoi gwybod amdanynt mewn modd priodol. Yn benodol, rhaid datgan yr amodau pwysig a all effeithio ar benderfyniad gwrandäwr neu wyliwr i gyfrannu ar yr adeg y darlledir gwahoddiad i gyfrannu.
2.16 Rhaid disgrifio gwobrau cystadlaethau a ddarlledir yn gywir.
(Gweler hefyd Rheol 1.30 yn Adran Un: Diogelu pobl dan ddeunaw oed, sy'n ymdrin â darparu gwobrau priodol i blant.)
Noder: Mewn amgylchiadau pan allai cyfranogiad cynulleidfaoedd neu ryngweithio â rhaglenni (gan gynnwys cystadlaethau a phleidleisiau a ddarlledir) beri cost i'r gwyliwr, dylai darlledwyr teledu gyfeirio hefyd at reolau 9.26 i 9.30. Dylai darlledwyr radio cyfeirio at Reolau 10.9 a 10.10.
Ystyr "cystadleuaeth a ddarlledir"
Ystyr “pleidleisio”
Mae hyn yn digwydd mewn rhaglen pan fydd gwylwyr neu wrandawyr yn cael eu gwahodd i gofrestru pleidlais trwy unrhyw ffordd er mwyn penderfynu neu ddylanwadu ar ganlyniad cystadleuaeth, ar unrhyw gam.