A person pointing a remote control at a television screen

Ofcom yn agor ymchwiliad i GB News o dan ein rheolau ar dramgwydd

Cyhoeddwyd: 28 Medi 2023
Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2023

Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i’r bennod o Dan Wootton Tonight ddydd Mawrth ar GB News o dan ein rheolau ar dramgwydd.

Rydym wedi derbyn tua 7,300 o gwynion am Dan Wootton Tonight a ddarlledwyd ar GB News ddydd Mawrth 26 Medi.

Rydym yn ymchwilio o dan Reol 2.3 o'r Cod Darlledu sy'n nodi, wrth gymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol, y mae’n rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod deunydd a allai achosi tramgwydd yn cael ei gyfiawnhau gan y cyd-destun.

Dros y dyddiau diwethaf bu damcaniaethu a sylwebaeth ynghylch ein rôl fel y rheoleiddiwr darlledu annibynnol. Mae'r rhain yn faterion pwysig a dw i am fod yn glir am ein rheolau.

Mae Senedd y DU yn gosod amcanion ynghylch sut y dylid rheoleiddio'r sector darlledu. Rydym yn gosod ac yn gorfodi rheolau i gyflawni'r amcanion hyn.

Yn groes i rai honiadau, mae'r rheolau hyn yn aros heb eu newid.

Maent wedi’u dylunio i amddiffyn cynulleidfaoedd rhag deunydd sarhaus a niweidiol, ac i gynnal uniondeb rhaglenni newyddion a materion cyfoes a ddarlledir, gan sicrhau bob amser bod rhyddid mynegiant yn flaenllaw ac yn rhan annatod o bob penderfyniad a wnawn. Mae hyn yn ganolog i’n democratiaeth ac mae cynulleidfaoedd yn ei werthfawrogi’n fawr.

Mae'r penderfyniadau a wnawn, sydd bob amser yn seiliedig ar ffeithiau a thystiolaeth, yn hanfodol er mwyn i ni ddiogelu tirwedd fywiog ein cyfryngau. Rydym yn parhau i weithredu a gorfodi’r rheolau hyn heb ofn na ffafriaeth.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
Yn ôl i'r brig