Derbyniodd Ofcom nifer o gwynion ynghylch erthygl newyddion y BBC ar-lein ac adroddiad newyddion a ddarlledwyd ar BBC One London am ymosodiad gwrth-semitig ar fyfyrwyr Iddewig yn Llundain. Cyhoeddwyd a darlledwyd y rhain ar 2 Rhagfyr 2021.
Bu i ni ymchwilio i'r erthygl ar-lein a'r adroddiad newyddion. Rydym wedi cyhoeddi Barn ar yr erthygl ar-lein bod y BBC wedi methu â glynu wrth ei Chanllawiau Golygyddol ar ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy. Rydym wedi canfod na fu i adroddiad newyddion BBC One London dorri'r Cod Darlledu, ond, yn ein barn ni, gwnaeth y BBC gamfarn olygyddol ddifrifol yn dilyn y darllediad.
Fe wnaeth ein hymchwiliad ddatgelu methiannau golygyddol sylweddol yn adroddiadau'r BBC am ymosodiad gwrth-semitig ar fyfyrwyr Iddewig oedd yn teithio ar fws yn Llundain.
Honnodd adroddiadau'r BBC fod recordiad sain a wnaed yn ystod y digwyddiad yn cynnwys sawl achos o sarhad gwrth-Fwslemaidd - a newidiwyd yn ddiweddarach i'r ffurf unigol "slur" - a ddaeth o'r tu mewn i'r bws. Yn fuan wedyn, derbyniodd dystiolaeth a fu'n groes i'r dehongliad hwn o'r sain.
Methodd y BBC â chydnabod yn brydlon bod y sain yn destun anghydfod ac ni wnaeth ddiweddaru ei herthygl newyddion ar-lein i adlewyrchu hyn am bron i wyth wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y BBC yn ymwybodol bod cynnwys yr erthygl yn achosi gofid a phryder sylweddol i ddioddefwyr yr ymosodiad a'r gymuned Iddewig ehangach.
Yn ein barn ni, roedd hyn yn fethiant sylweddol i lynu wrth ei chanllawiau golygyddol i adrodd newyddion gyda chywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy.
Bu i ni hefyd ystyried yn ofalus adroddiad newyddion cysylltiedig a ddarlledwyd ar newyddion BBC London. Gwnaeth ein hymchwiliad gymryd i ystyriaeth y camau a gymerwyd gan y BBC, yr wybodaeth a oedd ar gael yn rhesymol i'r BBC ar adeg y darllediad, yn ogystal â'r ffaith mai prif ffocws yr adroddiad oedd yr ymosodiad gwrth-semitig. O ystyried y ffactorau cyd-destunol hyn, fe ddaethom i'r casgliad na fu i'r rhaglen dorri ein rheolau ar adeg ei darlledu ac am y cyfnod 24 awr yr oedd ar gael ar y BBC iPlayer.
Er hynny, gwnaeth y BBC gamfarn olygyddol ddifrifol trwy beidio ag adrodd ar yr awyr, ar unrhyw adeg, bod yr honiad yr oedd wedi'i wneud am sarhad gwrth-Fwslemaidd yn destun anghydfod, unwaith i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg.
Creodd y methiant hwn i ymateb yn brydlon ac yn dryloyw argraff o naws amddiffynnol ar ran y BBC ymhlith y gymuned Iddewig. Mae'n dangos bod gan y BBC waith i'w wneud o ran dysgu sut i ymateb pan fydd ei hadroddiadau'n destun anghydfod. Byddwn yn adolygu sut mae'r BBC wedi mynd i'r afael â'r materion trin cwynion a thryloywder a godwyd gan yr achos hwn.