Yn y Cod Darlledu hwn, pan fo'r cyd-destun yn eu derbyn, mae cyfeiriadau at unrhyw ddarpariaethau deddfwriaethol, boed mewn deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth, yn cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd neu eu hailddeddfu neu fel y mae eu cymhwysiad wedi'i addasu addasu gan ddarpariaethau eraill o bryd i'w gilydd; bydd unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth statudol yn cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o bryd i'w gilydd o dan y ddarpariaeth honno.
O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) a Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd) (“Deddf 1996”) mae’n ofynnol i Ofcom lunio cod ar gyfer teledu a radio, yn ymdrin â safonau mewn rhaglenni, nawdd, gosod cynnyrch mewn rhaglenni teledu, tegwch a phreifatrwydd. Mae’r Cod hwn i’w alw’n God Darlledu Ofcom (“y Cod”).
Mae darlledwyr wedi'u hatgoffa am y cefndir deddfwriaethol sydd wedi cyfeirio’r rheolau, yr egwyddorion sy’n berthnasol i bob adran, yr ystyron a roddir gan Ofcom a’r arweiniad a gyhoeddir gan Ofcom, y gallent oll fod yn berthnasol wrth ddehongli a chymhwyso’r Cod. Ni ddylid darllen unrhyw reol ar ei phen ei hun ond yn hytrach o fewn cyd-destun y Cod cyfan gan gynnwys y penawdau, croesgyfeiriadau a thestun cysylltiol arall.
Wrth osod y safonau hyn, rhaid i Ofcom sicrhau amcanion y safonau sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf. Yn ogystal â gosod safonau gofynnol, mae hyn hefyd yn cynnwys hynny o safonau eraill a all fod yn briodol. (Gweler adrannau 3(1)(a) a (b), (2)(e) ac (f ) a (4)(b)(g)(h)( j)(k) ac (l), 319, 320, 321, 325, 326 ac Atodlen 11a y Ddeddf ac adrannau 107(1) Deddf 1996.)
Mae’r Cod hefyd yn gweithredu nifer o ofynion sy’n ymwneud â theledu yn y Cytundeb Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol T-TT(2000)008 (“Y ECTT”) ar gyfer y darlledwyr hynny sydd wedi’u rhwymo gan y Cyfamod hwnnw.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion hyn os ydych yn darparu Gwasanaeth Trwyddedig:
(a) a all gael ei dderbyn gan y cyhoedd ym mhob rhan o Barti ECTT[1] ar wahân i’r DU gan ddefnyddio offer defnyddwyr safonol; ac
(b) a all gael ei gyrchu yn y Parti perthnasol trwy fodd canllaw rhaglenni electronig:
(i) sydd wedi’i drwyddedu neu fel arall ei reoleiddio o dan gyfraith y Parti perthnasol, neu
(ii) os yw’r Parti perthnasol yn Barti heblaw’r DU nad yw ei gyfraith yn rheoleiddio darparu canllaw rhaglenni electronig, sy’n cael ei ddarparu gan berson y mae ei brif swyddfa o fewn y Parti perthnasol.
Byddwn yn cyfeirio at y cyfryw wasanaeth fel “Gwasanaeth ECTT”.
Mae’r gofynion ECTT perthnasol wedi’u nodi trwy gydol y Cod.
Mae’r Cod wedi’i ddrafftio hefyd yng ngoleuni Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“y Confensiwn”). Yn benodol, mae’r hawl i ryddid mynegiant, fel y mae wedi’i ddatgan yn Erthygl 10 y Confensiwn, yn cwmpasu hawl y gynulleidfa i dderbyn deunydd creadigol, gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth ond yn ddarostyngedig i gyfyngiadau sydd wedi’u pennu gan y gyfraith ac sy’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd.
Wrth ddrafftio, adolygu a diwygio'r Cod, mae Ofcom wedi rhoi sylw dyledus i’r materion a bennir yn adran 149(1) Deddf Cydraddoldeb 2010 (“dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus”) ac adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon 1998.
Oni nodir yn benodol fel arall, mae’r Cod yn berthnasol i gynnwys radio a theledu mewn gwasanaethau a drwyddedir gan Ofcom, i wasanaethau darlledu yn y DU sydd wedi’u hariannu gan ffi’r drwydded a ddarperir gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (“y BBC”), i Wasanaethau Rhaglenni Ar-alw y BBC yn y DU a ariennir gan ffi'r drwydded (”BBC ODPS”)[2] ac i Sianel Pedwar Cymru (“S4C”)[3].
Mae’n ofynnol dan o delerau eu trwydded Ofcom i ddarlledwyr lynu wrth y Cod Safonau a’r Cod Tegwch, sydd i’w dehongli fel cyfeiriadau at y Cod hwn. Mae'n ofynnol glynu wrth y Cod hwn hefyd yn achos y BBC drwy Gytundeb y BBC[4] ac, yn achos S4C, drwy statud. Heblaw lle mae’r Cod yn datgan fel arall, mae’r term “darlledwyr teledu” yn cyfeirio at ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni teledu (gan gynnwys unrhyw wasanaethau lleol fel gwasanaethau teledu cyfyngedig), y BBC ac S4C; mae “darlledwyr radio” yn cyfeirio at ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni radio (gan gynnwys gwasanaethau radio lleol a chymunedol a gwasanaethau rhaglenni sain digidol cymunedol) a’r BBC; mae “darlledwr” yn cynnwys y BBC fel darparwr Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC; ac mae “darlledu” yn cynnwys darparu rhaglenni ar Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC. Does dim un rhan o’r Cod yn berthnasol i BBC World Service.
O dan y Ddeddf, darparwr gwasanaeth yw’r sawl sydd â “rheolaeth gyffredinol” dros ba raglenni a chyfleusterau a gwasanaethau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth (adran 362(2) y Ddeddf).
Mae rheolaeth gyffredinol yn ehangach na rheolaeth olygyddol i’r graddau ei bod yn cynnwys rheolaeth dros wasanaethau a chyfleusterau y rhoddir mynediad atynt (er enghraifft, drwy gynnwys dolen neu gyfleuster ar gyfer nodweddion rhyngweithiol yn y prif wasanaeth) ac y gallai’r darlledwr fod heb reolaeth olygyddol drostynt.
Er y gallai dolen sydd wedi’i chynnwys yn y gwasanaeth fod yn un sy’n arwain at nodweddion y tu allan i’r gwasanaeth hwnnw nad ydynt wedi’u rheoleiddio gan Ofcom, mae darparu mynediad at y nodweddion hynny, drwy gynnwys dolen, er enghraifft, yn fater sydd o dan reolaeth y darlledwr ac felly yn rhan o gylch gwaith Ofcom. Gan hynny, caiff Ofcom fynnu y bydd dolen neu gyfleuster o’r fath yn cael ei ddileu, os bydd gan Ofcom bryderon, yng ngoleuni ei ddyletswyddau statudol ac, yn benodol, amcanion y safonau sydd wedi’u nodi yn adran 319 y Ddeddf, ynghylch y deunydd y mae’n arwain ato. Beth bynnag, mae'n rhaid i’r newid o reolaeth y darlledwr i reolaeth trydydd parti fod yn glir i’r gwyliwr, er mwyn rheoli disgwyliadau’r gynulleidfa ynglŷn â'r deunydd y mae’n cael ei thywys ato a’r risg o gael bod y darlledwr yn mynd yn groes i'r Cod hwn (er enghraifft, Rheolau 1.2 a 2.1).
Pan fo’r Cod wedi’i dorri, bydd Ofcom fel arfer yn cyhoeddi dyfarniad ac yn egluro pam y mae darlledwr wedi torri’r Cod (mae’r dyfarniadau hyn ar gael ym Mwletinau Darlledu ac Ar-alw Ofcom). Os bydd darlledwr yn torri’r Cod yn fwriadol, yn ddifrifol, yn fynych neu’n ddi-hid, caiff Ofcom osod sancsiynau statudol yn erbyn y darlledwr.[5] Ceir gweithdrefnau Ofcom ar gyfer ymchwilio i achosion (ar ôl derbyn cwyn neu fel arall) a gosod sancsiynau statudol yn erbyn darlledwyr ar y wefan hefyd. Mae aelodau’r cyhoedd sydd heb fynediad i’r we yn gallu gofyn i Ofcom anfon copi o’r gweithdrefnau atynt drwy’r post.
Mae’r Cod wedi’i rannu i adrannau sy’n seiliedig yn bennaf ar yr amcanion fel y maent wedi’u nodi yn adran 319(2) y Ddeddf ac adran 107(1) Deddf 1996, yn ogystal â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y’i diwygiwyd).
[1] Mae’r gwledydd a ganlyn wedi llofnodi a chadarnhau’r ECTT: Albania, Awstria, Bosnia a Herzegovina, Bwlgaria, Croatia, Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Estonia, Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Yr Eidal, Latvia, Liechtenstein, Lithuania, Malta, Montenegro, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Gweriniaeth Moldova, Romania, San Marino, Serbia, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Swistir, Gweriniaeth Iwgoslafaidd Flaenorol Macedonia, Twrci, Wcrain, Y Deyrnas Unedig.
[2] Fel BBC iPlayer ac iPlayer Kids (rhaglenni clyweled a sain ill dau).
[3] Nid yw darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) y mae'n ofynnol iddynt hysbysu Ofcom o dan adran 368BA y Ddeddf yn cael eu llywodraethu gan y rheolau yn Adrannau Un i Ddeg y Cod, ond yn hytrach gan y rheolau ODPS statudol, sydd i'w gweld yn Rhan Tri Cod Darlledu Ofcom (gyda’r Cod Trawshyrwyddo a'r rheolau Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw).
[4] Cytundeb dyddiedig Tachwedd 2016 rhwng Ysgrifennydd Gwladol Ei Mawrhydi dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yw Cytundeb y BBC, y gellir ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.
[5] Yn achos y BBC, mae pŵer Ofcom i osod sancsiynau wedi'i ddisgrifio yn Siarter y BBC.