Mae Ofcom wedi gosod sancsiynau statudol ar GB News Limited am dorri’r gofynion arbennig ar ddidueddrwydd yn y rhaglen People’s Forum: The Prime Minister a ddarlledwyd ar 12 Chwefror 2024.
Ar y rhaglen roedd Rishi Sunak, y Prif Weinidog ar y pryd, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda chynulleidfa stiwdio ynghylch polisïau a pherfformiad y Llywodraeth. Yn ein Penderfyniad ar Dorri Amodau a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024, canfuwyd bod y rhaglen hon wedi methu â chynnal didueddrwydd dyladwy ar fater gwleidyddol dadleuol pwysig a mater o bolisi cyhoeddus cyfredol pwysig a’i bod wedi torri Rheolau 5.11 a 5.12 y Cod Darlledu.
O ystyried y difrifoldeb a’r ffaith bod y rheolau hyn wedi’u torri mwy nag unwaith, mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £100,000 ar GB News Limited a hefyd wedi cyfarwyddo’r Trwyddedai i ddarlledu datganiad o’n canfyddiadau yn yr achos hwn ar ddyddiad ac mewn ffurf a bennir gan Ofcom.
Mae GB News yn herio’r Penderfyniad ar Dorri Amodau drwy adolygiad barnwrol. Ni fydd Ofcom yn gorfodi’r penderfyniad sancsiwn hwn nes bydd yr achos hwnnw wedi dod i ben.