Agweddau tuag at wleidyddion yn cyflwyno rhaglenni ar y teledu a'r radio

Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2024

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio dealltwriaeth cynulleidfaoedd o gynnwys newyddion a materion cyfoes a'u disgwyliadau o ddidueddrwydd dyladwy pan fydd gwleidyddion yn cyflwyno. Comisiynwyd yr astudiaeth gan Ipsos yng ngoleuni'r cynnydd yn nifer y rhaglenni a gyflwynwyd gan wleidyddion, diddordeb brwd y cyhoedd yn y mater hwn, ac i adeiladu tystiolaeth i lywio ein gwaith.

Bydd canfyddiadau'r ymchwil hon hefyd yn helpu darlledwyr i ddeall disgwyliadau cynulleidfaoedd am y defnydd o wleidyddion fel cyflwynwyr yn eu rhaglenni'n well.

Bydd yr adroddiad yn llywio penderfyniadau Ofcom am unrhyw gwynion yn y dyfodol ynghylch gwleidyddion sy'n cyflwyno rhaglenni ar deledu a radio, gan roi sylw llawn i hawliau darlledwyr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant, gan gynnwys hawl cynulleidfaoedd i dderbyn gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth ddiangen.

Adroddiad

Audience attitudes towards politicians presenting programmes on television and radio (PDF, 3.7 MB) (Saesneg yn unig)

Ar 28 Chwefror 2025, yn dilyn adolygiad barnwrol gan GB News, diddymodd yr Uchel Lys ddau benderfyniad Ofcom ynghylch torri amodau yn erbyn GB News a'u hanfon yn ôl at Ofcom i'w hailystyried. Penderfynodd Ofcom beidio ag ail-ymchwilio i'r ddwy raglen. Ar 13 Mawrth 2025, tynnodd Ofcom y tri phenderfyniad tor-amod arall yn erbyn GB News ac un penderfyniad na chafodd ei ddilyn dyddiedig 18 Mawrth 2024. Fe wnaeth Ofcom ddileu'r holl benderfyniadau hyn o gofnod cydymffurfio GB News. Gellir cyrchu’r holl benderfyniadau hyn er gwybodaeth yma:

Yn ôl i'r brig