Mae'r ddogfen hon yn wahoddiad i roi sylwadau ar adolygiad Ofcom o wasanaethau radio DAB+ newydd arfaethedig y BBC ac ymestyn oriau Radio 5 Sports Extra.
Ar ôl yr ymgynghoriadau ym mis Chwefror 2024 mae’r BBC wedi cynnal profion budd y cyhoedd ar gyfer pob un o’r canlynol:
- Pedair gorsaf radio cerddoriaeth DAB+ newydd arfaethedig, a fyddai’n cynnwys ail-lansio ffrwd bresennol Radio 1 Dance Sounds yn unig fel gorsaf radio ar DAB+ a thri estyniad DAB+ newydd i Radio 1, Radio 2 a Radio 3. Byddai’r gorsafoedd hefyd ar gael ar-lein drwy BBC Sounds, yn unol â dull gweithredu’r BBC ar gyfer ei orsafoedd radio cenedlaethol presennol.
- Ymestyn oriau darlledu gorsaf radio ran-amser bresennol y BBC, Radio 5 Sports Extra.
Mae Bwrdd y BBC wedi dod i’r casgliad bod y naill gynnig a’r llall yn diwallu’r profion budd y cyhoedd.
Mae Siarter a Chytundeb y BBC yn mynnu bod Ofcom yn archwilio unrhyw newidiadau “sylweddol” i’w wasanaethau y mae’r BBC wedi penderfynu eu bod yn diwallu’r prawf budd y cyhoedd ac mae’n dymuno eu rhoi ar waith. Ein tasg gychwynnol yw penderfynu a ydym hefyd yn ystyried bod y newidiadau perthnasol yn sylweddol ac, os felly, pa fath o asesiad y byddwn yn ei gynnal.
Mae Siarter a Chytundeb y BBC yn darparu y bydd cyflwyno gwasanaeth cyhoeddus newydd bob amser yn ‘sylweddol’. Rydym o’r farn y byddai lansio pedair gorsaf radio DAB+ newydd yn golygu creu gwasanaethau cyhoeddus newydd, ac felly rydym yn cynnig pennu bod hwn yn newid sylweddol.
Yn ei brawf budd y cyhoedd, mae’r BBC yn datgan bod y newid arfaethedig i Radio 5 Sports Extra o fod yn orsaf ran amser i fod yn orsaf oriau estynedig yn sylweddol, oherwydd natur y newid ac oherwydd mai dim ond un cystadleuydd sydd ym marchnad radio chwaraeon y DU, sef talkSPORT. Rydym yn cytuno â’r BBC ac felly’n cynnig pennu bod y newid hwn yn un sylweddol.
Rydym hefyd yn cydnabod bod y cynigion hyn yn codi nifer o faterion dadleuol a allai effeithio ar amrywiaeth o bartïon sydd â diddordeb. O’r herwydd, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen ag asesiad cystadleuaeth ail gam manylach ar gyfer y ddau gynnig yn hytrach nag Asesiad Byrrach.
Yn y ddogfen hon, rydym yn rhoi cyfle i randdeiliaid gyflwyno sylwadau ar yr asesiad cychwynnol hwn ac yn gofyn am safbwyntiau cychwynnol er mwyn deall sut mae rhanddeiliaid yn ystyried y gallai lansio’r gorsafoedd DAB+ newydd a’r newidiadau i Radio 5 Sports Extra effeithio arnyn nhw os bydd y newidiadau’n bwrw ymlaen. Bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau ar ein casgliadau drafft ar gyfer y ddau gynnig cyn i ni ddod i benderfyniad terfynol.
Ymatebion
Cysylltwch
BBC Audio Proposals Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA