Cenhadaeth y BBC ydy darparu gwybodaeth, addysg ac adloniant i gynulleidfaoedd a hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus ar draws amrywiaeth o Wasanaethau Cyhoeddus. Er mwyn iddo allu dangos yr allbwn mwyaf creadigol ac unigryw ac o’r ansawdd gorau, mae’n comisiynu rhaglenni a deunyddiau eraill gan y BBC a gan gynhyrchwyr allanol.
Dros oes y Siarter, mae’n rhaid i’r BBC gomisiynu mwy o gynnwys yn dilyn proses gystadleuol, a sicrhau bod y broses hon yn deg, yn rhesymol, yn dryloyw ac nad yw’n gwahaniaethu. Rôl Ofcom ydy monitro cydymffurfiad y BBC a gorfodi'r gofynion hynny, ac, os oes angen, gosod gofynion ychwanegol i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol pan fydd y BBC yn comisiynu cynnwys ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae’r datganiad hwn yn nodi penderfyniad Ofcom ynghylch a oes angen rheoliad ychwanegol yn y maes hwn.
Beth rydym ni wedi’i benderfynu – yn gryno
- Nid ydym yn gosod unrhyw ofynion sylweddol newydd mewn perthynas â chomisiynu ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yn Fframwaith Gweithredu’r BBC, oherwydd mae’r BBC eisoes yn rhwym wrth ofyniad i sicrhau ei fod yn comisiynu mewn ffordd deg, resymol, dryloyw a heb wahaniaethu o dan y Cytundeb.
- Rydyn ni’n cyflwyno canllawiau sy’n nodi’r ffactorau y byddem yn eu hystyried wrth asesu a ydy'r BBC wedi diwallu ei ddyletswyddau o ran comisiynu mewn ffordd deg, resymol, dryloyw a heb wahaniaethu petai ymchwiliad.
- Mae'r BBC wedi cytuno i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol a’i rhoi i Ofcom a fydd yn caniatáu i ni gyflawni ein rôl monitro ac nid ydym felly’n gosod unrhyw ofynion newydd ar gyfer adrodd
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA