Gwasanaethau rhaglenni teledu ac ar-alw: Adroddiad gwasanaethau mynediad 2021 (Channel 4)

Cyhoeddwyd: 28 Ionawr 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae Ofcom wedi penderfynu lansio ymchwiliad, yn dilyn methiant estynedig y llynedd yn eu gwasanaethau isdeitlo, disgrifiadau sain ac arwyddo (sydd ar cyd yn cael eu galw'n 'wasanaethau mynediad'.)  Er bod Channel 4 wedi llwyddo i fodloni ei gwotâu blynyddol statudol ar gyfer gwasanaethau mynediad yn 2021, ni gyflawnodd y darlledwr ei gwota ar gyfer isdeitlau ar y llwyfan lloeren Freesat. Yn ogystal ag ymchwilio i hyn, a'r amgylchiadau cysylltiedig, rydym yn cynnal adolygiad ehangach o drefniadau darlledu a chyfleusterau wrth gefn Channel 4 a'r darlledwyr eraill yr effeithiwyd arnynt ar adeg y methiant.

Ym mis Medi 2021, bu diffyg mewn canolfan ddarlledu a redir gan Red Bee Media a achosodd aflonyddwch sylweddol i weithrediadau nifer o ddarlledwyr, gan gynnwys darpariaeth eu gwasanaethau mynediad (isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain). Mewn perthynas â gwasanaethau mynediad, effeithiwyd gwaethaf ar Channel 4, gyda methiant estynedig ar eu sianeli darlledu a ddechreuodd ar 25 Medi 2021 ac na chafodd ei ddatrys yn llawn tan 19 Tachwedd 2021.

Oherwydd arwyddocâd y broblem a'r amser a gymerodd i'w datrys, rydym wedi symud ymlaen dyddiad cyhoeddi'r data a ddarperir gan Channel 4 yn nodi lefel y ddarpariaeth isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain ar sianeli Channel 4 yn 2021 yn erbyn eu gofynion.

Pennwyd lefel y gwasanaethau mynediad y mae'n rhaid i sianeli penodol eu darparu gan Senedd y DU o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae'n rhaid i'r sianeli hyn sicrhau bod isafswm cyfrannau o gyfanswm eu horiau rhaglennu'n cynnig darpariaeth gwasanaethau mynediad benodol dros gyfnod o 12 mis.

Nodir cwotâu a pherfformiad gwirioneddol gwasanaethau Channel 4 yn 2021 isod.

SianelCwota Blynyddol (isafswm)Cyflawnwyd yn 2021 (Freesat)Cyflawnwyd yn 2021 (ar draws llwyfannau eraill)
Channel 490%

85.41%

91.30%
E480%

85.27%

91.17%
More480%85.36%92.31%
Film480%85.24%92.45%
4seven80%85.28%91.72%

Mae'n rhaid i Channel 4 ddarparu o leiaf 90% o'u cynnwys gydag isdeitlau. Mae'n rhaid i'r sianeli eraill yn eu portffolio (E4, More4, Film4, a 4seven) ddarparu o leiaf 80% o'u cynnwys gydag isdeitlau.

Er gwaethaf y methiant, ar draws y rhan fwyaf o lwyfannau teledu (e.e. Freeview, Sky a Virgin), llwyddodd Channel 4 i fodloni eu gofynion isdeitlo yn 2021 ar eu sianeli. Y rheswm am hyn oedd eu bod yn gyffredinol yn gorberfformio yn erbyn y cwota statudol y tu allan i gyfnod y methiant, drwy ddarparu 100% o raglennu gydag isdeitlau.

Fodd bynnag, er i wasanaethau isdeitlo gael eu hadfer ar y llwyfannau hyn ar 22 Hydref 2021, ni chafodd gwasanaethau eu hadfer yn llawn ar y llwyfan Freesat tan 19 Tachwedd 2021. Felly, rydym hefyd wedi cyhoeddi canran y rhaglennu a ddarparwyd gydag isdeitlo ar y llwyfan Freesat ar wahân.

Bu i E4, More4, Film4 a 4seven, sydd i gyd â chwota isdeitlo 80%, fodloni eu gofyniad blynyddol. Ond ar Channel 4, sydd â gofyniad 90%, dim ond 85.41% o raglennu oedd ag isdeitlau ar Freesat – tan-ddarpariaeth o ychydig o dan 5 pwynt canrannol.

Diben y gofynion hyn yw pennu isafswm darpariaeth gwasanaethau mynediad i ddarlledwyr bob blwyddyn. Y bwriad yw bod sianeli'n darparu lefel gymharol gyson o ddarpariaeth ar draws y flwyddyn, gan flaenoriaethu'r ddarpariaeth gwasanaethau mynediad ar y rhaglenni hynny a fyddai'n arwain at y budd mwyaf i gynulleidfaoedd.

Yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw isdeitlo ar gael ar holl wasanaethau darlledu Channel 4 am gyfnod o bedair wythnos, ac effeithiwyd ar wylwyr Freesat am wyth wythnos. Roedd graddfa'r methiant hwn yn ddigynsail ac arweiniodd at ofid a rhwystredigaeth fawr ymhlith gwylwyr sy'n dibynnu ar isdeitlau. Cysylltodd cannoedd o wylwyr ag Ofcom i fynegi eu pryder, yn enwedig am yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn ddiffyg gwybodaeth ynghylch beth oedd yn cael ei wneud i gywiro'r mater, a pha mor hir y gallai hynny gymryd.

Gan gymryd yr holl ffactorau perthnasol i ystyriaeth, mae Ofcom wedi penderfynu lansio ymchwiliad ffurfiol i'r tan-ddarpariaeth a'r amgylchiadau cysylltiedig. Caiff hyn ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau perthnasol.

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried i ba raddau y bodlonodd Channel 4 y cwotâu deddfwriaethol, a nodir yn fanylach yn ein Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu. Bydd hefyd yn ystyried a oedd Channel 4 yn bodloni gofyniad, sydd wedi'i gynnwys yn Adran Chwech y Cod Mynediad, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o argaeledd ei wasanaethau mynediad yn gyffredinol yn ystod cyfnod y methiant. Byddwn yn cyhoeddi canlyniad ein hymchwiliad cyn gynted â phosib.

SianelCwota Blynyddol (isafswm)Cyflawnwyd yn 2021
Channel 410%36.27%
E410%63.21%
More410%40.09%
Film410%32.29%
4seven10%34.66%

Mae'n rhaid i holl wasanaethau Channel 4 ddarparu o leiaf 10% o'u horiau rhaglennu gyda disgrifiadau sain. Fodd bynnag, mae Channel 4 wedi gwneud ymrwymiad gwirfoddol i ddarparu o leiaf 20% ac fel arfer mae'n llawer mwy na hyn. O ganlyniad, er gwaethaf y methiant hir mewn disgrifiadau sain ar draws gwasanaethau Channel 4 rhwng 25 Medi a 19 Tachwedd 2021, bu i bob sianel fodloni eu gofyniad cyfreithiol. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu amgylchiadau'r methiant hwn, a pha gamau sydd wedi'u cymryd i'w atal rhag digwydd eto, fel y nodir o dan 'Camau Nesaf' isod.

SianelCwota (lleiafswm)Cyflawnwyd yn 2021
Channel 45%5.27%
E45%5.43%

Mae'n rhaid i Channel 4 ac E4 ddarparu arwyddo ar gyfer 5% o'u horiau rhaglennu. (Mae gwasanaethau portffolio eraill Channel 4, More4, Film4 a 4Seven yn darparu eu cymorth arwyddo trwy gyfraniad ariannol i Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydeinig.)

Amharodd methiant y gwasanaethau mynediad yn ddifrifol ar wasanaethau arwyddo'r sianeli hyn hefyd, gan na darlledwyd arwyddo o gwbl rhwng 25 Medi a 19 Tachwedd. Er i'r ddwy sianel fodloni eu cwota arwyddo ar draws 2021 yn gyffredinol, o ystyried natur estynedig y methiant a'r effaith sylweddol ar gynulleidfaoedd, byddwn yn cynnal ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd a sut y gellir atal hyn rhag digwydd eto, fel y nodir o dan 'Camau Nesaf' isod.

Camau nesaf

Mae Ofcom wedi penderfynu lansio ymchwiliad i dan-ddarpariaeth Channel 4 o is-deitlo ar y llwyfan Freesat a'r amgylchiadau cysylltiedig, gan gynnwys i ba raddau yr oedd Channel 4 wedi hyrwyddo ymwybyddiaeth o argaeledd eu gwasanaethau mynediad ar draws ei holl sianeli a llwyfannau yn ystod cyfnod y methiant.

Er i ni gydnabod bod Channel 4 wedi bodloni eu gofynion eraill, o ganlyniad i or-berfformiad y tu allan i gyfnod y methiant, mae gennym bryderon o hyd am y digwyddiad hwn. Fe arweiniodd at fethiant hir yn y ddarpariaeth o wasanaethau mynediad Channel 4 ac amharodd yn ehangach hefyd ar eu darllediadau cyffredinol. Effeithiwyd ar nifer o ddarlledwyr eraill hefyd gan y diffyg yn Red Bee Media, ond i raddau llai arwyddocaol.

Felly rydym hefyd yn cynnal adolygiad o drefniadau trawsyrru a chyfleusterau wrth gefn Channel 4 a'r darlledwyr yr effeithiwyd arnynt ar adeg y methiant, a pha newidiadau y maent wedi'u gwneud o ganlyniad iddo. Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen cymryd camau rheoleiddio pellach i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau mynediad dibynadwy i gynulleidfaoedd yn parhau – ni waeth pa bethau a allai ddigwydd i'r seilwaith darlledu a ddefnyddir i'w darparu.

Yn ôl i'r brig