Datganiad: Hygyrchedd Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2017
Ymgynghori yn cau: 6 Chwefror 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae'r ddogfen hon yn nodi penderfyniad Ofcom i ddiwygio ei God ar Gyfeiryddion Rhaglenni Electronig. Mae'r ddogfen hefyd (ymysg pethau eraill) yn nodi’r arferion y mae’n rhaid i ddarparwyr Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig eu dilyn er mwyn darparu’r nodweddion a’r wybodaeth sydd eu hangen i alluogi pobl sydd ag anableddau sy’n effeithio ar eu golwg neu ar eu clyw neu’r ddau, i ddefnyddio Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, rydym wedi penderfynu gosod ymarfer i ddarparwyr Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig ymdrechu’n rhesymol i gyflwyno nodweddion hygyrchedd penodol, pan fo’n ymarferol.

Yn yr un modd â dogfennau eraill Ofcom sydd wedi cael eu cyhoeddi, mae’r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael ar wefan Ofcom mewn fersiwn (Fformat Dogfen Gludadwy) sy’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o ddarllenwyr sgrin.

Byddwn yn ystyried pob cais rhesymol ar gyfer cyhoeddi'r datganiad hwn mewn fformatau neu ieithoedd eraill. Os hoffech chi wneud cais, gallwch ffonio ein Tîm Cynghori o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os ydych chi’n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch chi ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.

EPG Accessibility (July 2015)

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Cathy Taylor
EPG Accessibility Consultation
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig