Mae Amserlen Rhaglenni Electronig (‘EPG’) yn cael ei galw’n ‘amserlen teledu’ weithiau. Mae’n ddewislen ar y sgrin sy’n dweud wrth ddefnyddwyr pa raglenni teledu sydd ar gael ar eu setiau teledu ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw symud rhwng gwahanol sianeli a rhaglenni.
Mae'n rhaid i ddarparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig gynhyrchu datganiad blynyddol o'r camau maen nhw wedi'u cymryd ac yn bwriadu eu cymryd i’w gwneud yn hawdd i bobl anabl ddefnyddio'u hamserlenni. Mae Cod EPG yn nodi arferion y dylent eu dilyn.
Rydyn ni’n adrodd yma ar hygyrchedd Amserlen Rhaglenni Electronig ar 30 Tachwedd 2023, gan grynhoi i ba raddau roedd darparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig yn cynnig y nodweddion hygyrchedd a nodir yn y Cod EPG: swyddogaeth ‘testun i lais’; amlygu neu hidlo cynnwys gyda disgrifiadau sain neu iaith arwyddion; chwyddo testun; a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin. I gael rhagor o fanylion (gan gynnwys ar nodweddion hygyrchedd y tu hwnt i'r rheini sy'n ofynnol gan y Cod), edrychwch ar yr adroddiadau unigol a gyflwynir gan ddarparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig (dolenni isod).
- Roedd Freeview (sy’n cael ei ddarparu gan Everyone TV) a Virgin Media yn dal i gynnig yr holl nodweddion hygyrchedd angenrheidiol. Erbyn hyn, mae pob dyfais Freeview Play yn cynnig rhyw fersiwn o’r ‘Amserlen Teledu Hygyrch’ (sydd ar gael drwy sianel 555), ac mae cyfran y rhain gan gynnwys testun i lais wedi cynyddu i 75%.
- Roedd Sky yn dal i gynnig tair o’r nodweddion, gyda’r bwriad o lansio’r pedwerydd – chwyddo – ar gyfer 2024.
- Mae Freesat (a brynwyd gan Everybody TV – Digital UK gynt – yn 2021) yn llusgo y tu ôl i Freeview, gyda hygyrchedd yn dibynnu ar swyddogaethau hygyrchedd presennol dyfeisiau ar hyn o bryd. Dim ond dwy o’r nodweddion a oedd yn cael eu cynnig (hidlo/amlygu a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin), ond mae Everyone TV yn bwriadu rhoi diweddariadau meddalwedd ar waith i flychau pen set Freesat G3 a fydd yn cyflwyno galluoedd ychwanegol o ran hygyrchedd.
- Ar y dyddiad adrodd, nid oedd YouView wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran cynnig mwy na’r ddwy nodwedd hygyrchedd (chwyddo a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin) a gynigiwyd yn flaenorol. Ond, ers diwedd y cyfnod adrodd, mae YouView wedi lansio ap EETV gyda BT ar gyfer Apple TV, gyda’i ganllaw llywio yn cefnogi gallu testun-i-lais Apple. Mae YouView yn cydnabod manteision posibl amlygu/hidlo i ddefnyddwyr, ac mae’n parhau i archwilio pa mor ymarferol yn dechnegol ac yn fasnachol yw cyflwyno’r swyddogaeth hon i’r modelau blwch pen set YouView diweddaraf.
Rydyn ni’n croesawu’r camau parhaus sy’n cael eu cymryd gan ddarparwyr i wneud eu Hamserlenni Rhaglenni Electronig yn fwy hygyrch. Ar ôl diwygio'r Cod EPG yn 2018, byddem yn awr yn disgwyl i bob darparwr - fel y nodir yn y Cod EPG - fod yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod eu Hamserlen Rhaglenni Electronig yn cynnwys y pedair nodwedd hygyrchedd. Mewn adroddiadau yn y dyfodol, os nad oes unrhyw rai o’r nodweddion hyn ar gael, rydyn ni’n disgwyl i ddarparwyr egluro mewn datganiadau sut maen nhw wedi gwneud ymdrechion rhesymol a pham nad yw hyn wedi bod yn ymarferol.
Rydyn ni’n croesawu'r mesurau a gymerwyd gan rai darparwyr i gyflwyno nodweddion hygyrchedd mewn perthynas â gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y Cod EPG ar hyn o bryd (er enghraifft Freely, Sky Glass, Virgin Media Stream) ac i godi ymwybyddiaeth o nodweddion hygyrchedd (er enghraifft ymgyrch Everyone TV i godi proffil Amserlen Teledu Hygyrch Freeview).
Er bod Amserlenni Rhaglenni Electronig sy'n cael eu rheoleiddio yn parhau i fod yn adnodd allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd sy'n gwylio, nid dyma'r unig ffordd y mae cynulleidfaoedd yn canfod, yn llywio, ac yn cael mynediad i deledu. Mae’r Llywodraeth yn ystyried diweddaru pa Amserlenni Rhaglenni Electronig sy’n cael eu rheoleiddio yn y DU ac mae’r Bil Cyfryngau sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd yn cynnwys gofynion hygyrchedd mewn perthynas â rhai rhyngwynebau teledu cysylltiedig sy’n rhoi mynediad at apiau teledu ar-alw. Byddwn yn gweithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar gynnwys a symud rhwng y cynnwys hwnnw pa bynnag lwybr maen nhw’n ei ddewis.