Adroddiad gwasanaethau mynediad teledu: chwe mis cyntaf 2024

Cyhoeddwyd: 15 Hydref 2024

Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu sy’n cael eu darlledu wedi darparu is-deitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (“gwasanaethau mynediad”, gyda’i gilydd) rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2024.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n ofynnol i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch. Mae’r Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.

Mae’n rhaid i ddarlledwyr gyrraedd targedau ar gyfer y gwahanol wasanaethau mynediad maen nhw’n eu darparu ar eu sianeli. Mae’r targedau hyn yn cael eu cyfrifo ar sail fforddiadwyedd ac am faint o amser y mae’n rhaid i’r sianel fod wedi darparu gwasanaethau mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r cwotâu hyn yn cael eu cyfrifo ar gael yn y Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu.

Mae’r cwotâu blynyddol ar gyfer sianeli sy’n cael eu darlledu yn cael eu dangos fel canran o’r oriau y mae’n rhaid eu darparu gyda phob gwasanaeth mynediad. Er hwylustod, mae Ofcom yn nodi un ffigur ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau mynediad ar gyfer pob sianel. Fodd bynnag, mae’r cwotâu’n berthnasol ar bob llwyfan darparu lle mae gwasanaeth yn cael ei reoleiddio. Mae’r cwotâu blynyddol yn cael eu cyfrifo ar sail blwyddyn galendr, ac rydym yn disgwyl i bob sianel fod wedi cyflawni’r cwotâu hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Gall sianeli sydd â rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa naill ai ddarlledu 75 munud o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan mewn trefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom, sy’n cyfrannu at sicrhau bod rhaglenni sy'n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ar gael.

Pan fydd "Cyfraniad BSLBT" yn cael ei ddangos yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad i Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ac sy’n cael eu darlledu ar sianeli Film4 a Together TV.

Pan fydd “Eithriad” yn cael ei nodi yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli hyn wedi’u heithrio rhag darparu disgrifiadau sain. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys sy’n cael ei ddarlledu ar y gwasanaethau hyn, sy’n golygu nad oes llawer o le yn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.

Mae Ofcom yn falch o weld bod pob sianel ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i fodloni neu ragori ar eu gofynion i ddarparu gwasanaethau mynediad yn 2024. Mae Ofcom wedi cael sicrwydd gan Discovery Corporate Services Limited fod DMAX ar y trywydd iawn i ddarparu disgrifiadau sain ar gyfer 15% o’i raglenni yn ystod 2024, sef rhywbeth yr oedd wedi ymrwymo iddo ar ôl iddo dan-ddarparu disgrifiadau sain yn 2023.

Fel yn yr adroddiad canol-blwyddyn y llynedd, ni fyddwn yn adrodd ar hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw ar hyn o bryd a byddwn yn cyhoeddi data, mewn perthynas â gwasanaethau rhaglenni ar-alw hysbysedig, ar gyfer blwyddyn lawn 2024 yng Ngwanwyn 2025.

Adroddiad rhyngweithiol

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol fel y gallwch gymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).

Noder bod yr isod yn Saesneg yn unig.

Mae'r set ddata lawn hefyd ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat CSV (Saesneg yn unig).

Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u diwallu gan y cyhoeddiadau hyn, ac os hoffech ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.

Yn ôl i'r brig