Datganiad: Strategaeth sbectrwm y gofod

Cyhoeddwyd: 15 Mawrth 2022
Ymgynghori yn cau: 24 Mai 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 10 Tachwedd 2022

Mae'r ddogfen hon yn disgrifio strategaeth ar ei newydd wedd gan Ofcom ar gyfer rheoli sbectrwm radio a ddefnyddir gan sector y gofod. Rydym am sicrhau bod digon o sbectrwm ar gael i sicrhau hyd yn oed yn fwy o fanteision yn y dyfodol, ac ar yr un pryd sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. Mae hyn yn cynnwys cyflawni cydbwysedd cywir rhwng galluogi gwasanaethau newydd ac arloesol a sicrhau y gall gwasanaethau gwerthfawr presennol barhau.

I wneud hyn, byddwn yn ffocysu ein gweithgareddau ar dri maes.

  • Cyfathrebiadau – Bydd gennym ffocws cryf ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n deillio o systemau lloeren NGSO. Rydym wedi cyflwyno fframwaith trwyddedu NGSO newydd yn y DU a byddwn yn mynd ar drywydd gwelliannau i reolau NGSO rhyngwladol. Byddwn ni'n ystyried darparu mynediad at fwy o sbectrwm i alluogi darparu gwasanaethau band eang lloeren cyflymder uwch i fwy o fusnesau a phobl.
  • Arsylwi a llywio'r ddaear – Yng ngoleuni defnydd cynyddol sector y gofod o sbectrwm, byddwn yn sicrhau bod lloerenni arsylwi'r Ddaear a gorsafoedd Daear y DU sy'n eu cynnal wedi'u hamddiffyn yn briodol rhag ymyriant niweidiol. Rydym am iddynt barhau i fod o fudd i sectorau fel amaethyddiaeth, y gwasanaethau brys, monitro'r hinsawdd a rhagweld y tywydd tra'n caniatáu i wasanaethau eraill gael mynediad at sbectrwm.
  • Deall a galluogi mynediad i'r gofod – O ystyried y nifer o loerenni, a hynny'n codi'n gyflym, sydd mewn orbit, byddwn yn chwarae ein rôl wrth gefnogi'r cyrff sy'n gyfrifol am ddelio â materion fel malurion gofod a mynediad diogel i'r gofod; er enghraifft, drwy ystyried gofynion mynediad sbectrwm ar gyfer radar i dracio gwrthrychau yn y gofod.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Yn ôl i'r brig