Gwneud cais am drwydded radio morol neu i’w hamrywio

Cyhoeddwyd: 10 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd diwethaf: 4 Mawrth 2024

Mae radio morol yn galluogi gorsafoedd llongau i gyfathrebu â’i gilydd a gyda gorsafoedd ar y lan, yn bennaf er mwyn diogelu pobl a llongau.

Mae'r trwyddedau hyn yn caniatáu i sefydliadau gyfathrebu â’u llongau ar faterion masnachol gan ddefnyddio sianel forol wedi’i haseinio’n unigol. Y sianeli sydd wedi’u neilltuo i’r gwasanaeth hwn yw sianeli symudol ar y môr yn y DU yn hytrach na sianeli rhyngwladol, a does dim rhaid i ddefnyddwyr feddu ar Dystysgrif Gweithredwr nac Awdurdod i Weithredu Radio ar y Môr.

Mae’r drwydded yn cwmpasu’r gorsafoedd sylfaen ac unrhyw nifer o wasanaethau symudol cysylltiedig sy’n cael eu defnyddio o orsafoedd llongau, o fewn radiws o 4km i’r orsaf sylfaen. Does dim rhaid i longau unigol feddu ar drwydded radio llongau, oni bai fod radio wedi’i gosod arni sy’n defnyddio sianeli symudol morol rhyngwladol.

Ar hyn o bryd, mae’r ffi ar gyfer y drwydded yn cael ei chyfrifo yn ôl nifer y gorsafoedd a’r sianeli sylfaenol. Mae sianeli’n cael eu neilltuo yn ôl argaeledd ac yn unol ag amodau rhanbarthol.

Coastal Station Radio Area Defined Licence Application (PDF, 3.5 MB)
Coastal Station Radio Area Defined Licence Variation (PDF, 3.4 MB)

Coastal Station Radio Technically Assigned or Marina Licence Application (PDF, 326.7 KB)
Coastal Station Radio Technically Assigned Licence Variation (PDF, 270.9 KB)

Mae’r drwydded hon ar gael i’r rheini sy’n rhedeg clybiau hwylio, marinâu a sefydliadau tebyg gan ymdrin â chyfathrebu sy’n ymwneud â symud ac angori llongau pleser a rheoli rasys.

Mae tair sianel ar gael.

Mae sianeli M ac M2 (157.850 a 161.425 MHz) yn sianeli simplex. Gan nad yw’r sianeli hyn yn rhai rhyngwladol, does dim angen i ddefnyddwyr feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd ac Awdurdod i Weithredu ar gyfer Gweithredwyr Radio Morol.

Application Form for a Coastal Station Radio Technically Assigned or Marina Licence
(PDF, 326.7 KB)

Mae’r drwydded hon yn rhoi awdurdod i osod a defnyddio gorsaf radio morol ar y tir at ddibenion hyfforddi ac arholi gweithredwyr radio morol.

Mae telerau’r drwydded hon yn cyfyngu'r defnydd i’r adeilad. Rhaid peidio â 
defnyddio'r offer i drawsyrru y tu allan. Rhaid i’r trawsyriadau beidio â mynd y tu hwnt i waliau'r adeilad lle mae’n cael ei ddefnyddio.

Gallwch wneud cais am y drwydded hon a’i rhoi ar unwaith drwy fewngofnodi i’r System Trwyddedu Ar-lein.

Coastal Station Radio (Training School) licence application form (PDF, 208.5 KB)

Mae’r drwydded hon ar gael i’r rheini sy’n rhedeg porthladdoedd a harbwrs. Mae’n rhoi awdurdod i ddefnyddio radio i gefnogi gweithrediadau porthladdoedd a symudiadau llongau. Mae hyn yn golygu defnyddio radio rhwng gorsafoedd ar y glannau a gorsafoedd llongau mewn porthladd neu gerllaw porthladd, lle mae negeseuon yn ymwneud â thrin gweithredol, symud a diogelwch llongau ac, mewn argyfwng, diogelwch pobl.

Coastal Station Radio Technically Assigned or Marina Licence Application (PDF, 326.7 KB)

Mae DGPS yn enghraifft o DGNSS (System Llywio Lloeren Fyd-eang). Mae’n cael ei 
defnyddio i bennu lleoliad yn fwy cywir. Mae’r orsaf DGPS yn cael signalau o'r lloeren a gan fod yr orsaf DGPS yn gwybod ei lleoliad ei hun yn union (o fapiau ac ati), mae’n gallu olrhain signalau gwall (cywiro) y lleoliad a geir o'r lloeren a’u cymharu â'i gwir leoliad. Mae’r ddyfais wedyn yn rhoi’r signal cywir o’r orsaf DGPS i’r llongau ac ati.

Mae’r llong yn cael lleoliad bras ar gyfer y lloeren yn uniongyrchol ac mae’n defnyddio’r signalau cywiro ar gyfer yr orsaf DGPS i gael lleoliad mwy cywir ar gyfer y llong..

Maritime Navigational Aids and Radar / DGPS Licence Application form (OfW449)
(PDF, 627.1 KB)

Defnyddir radar morol gan longau i osgoi gwrthdaro ac at ddibenion llywio ac mae hyn yn dod o dan drwydded radio llongau (gweler uchod). Defnyddir radar ar y lan (er enghraifft Canolfannau Traffig Llongau) i dracio ARPA, osgoi gwrthdaro neu reoleiddio traffig llongau yn yr ardal wyliadwriaeth.

Mae’r amleddau sydd wedi’u dyrannu i gynnyrch Cymorth Llywio radio morol (navaids) mewn bandiau amrywiol rhwng 283.5MHz a 9500MHz. Cytunir arnynt ar sail fyd-eang neu ar sail y DU.

Wrth roi trwyddedau ar gyfer radar a chynnyrch cymorth llywio, rhaid cyd-drefnu’n helaeth â defnyddwyr eraill yn y DU a thramor.

Maritime Navigational Aids and Radar / DGPS Licence Application form (OfW449)
(PDF, 627.1 KB)

Bwriad y drwydded hon yw galluogi busnes i brofi, atgyweirio a/neu arddangos offer trawsyrru a/neu dderbyn radio morol.

Gellir gwneud y gwaith hwn naill ai ym mhrif ganolfan fusnes yr ymgeisydd neu ar fwrdd llongau yn y DU sy’n perthyn i gwsmeriaid y trwyddedai (p’un a oes gan y llong Drwydded Radio Llongau ddilys ar gyfer y DU neu beidio). Gellir cyflawni'r gwaith hwn hefyd mewn digwyddiadau arbennig fel sioeau cychod, ar yr amod bod Ofcom yn cael gwybod am hyn ymlaen llaw.

Maritime Radio (Suppliers and Demonstration) licence application form
(PDF, 244.3 KB)

System ddata yw AIS lle mae llongau’n trawsyrru gwybodaeth yn ymwneud â’r llong i orsafoedd AIS eraill dro ar ôl tro a hefyd ar gais gorsafoedd AIS eraill, a thrwy hynny bydd llongau a gorsafoedd ar y tir yn ymwybodol ohonynt. Maent hefyd yn cael gwybodaeth gan longau eraill a gorsafoedd AIS eraill (gorsafoedd ar y tir ac ati).

Mae gorsafoedd ar y glannau’n trosglwyddo gwybodaeth am eu lleoliad eu hunain, gan gynnwys y MMSI (Rhif Adnabod Gwasanaeth Symudol Morol sy’n rhif naw digid unigryw) ac mae’n gallu holi llongau a newid cyfraddau adrodd y llongau, er enghraifft, mewn ymateb i orchmynion a anfonir.

Mae’n cael ei ddefnyddio i lywio llongau’n ddiogel, ee osgoi gwrthdrawiad. Mae eiconau’r gorsafoedd AIS yn y cyffiniau fel arfer yn cael eu harddangos ar siart fyw (ee ar longau ac yn y gorsafoedd ar y lan) gyda labeli yn erbyn pob eicon yn rhoi gwybodaeth fel MMSI, safle, cyflymder dros y ddaear, ac ati, gan alluogi gorsafoedd ar y lan (gan gynnwys Porthladdoedd) i fonitro a rheoli traffig ac felly helpu llongau i osgoi gwrthdaro

Automatic Identification Systems (AIS) Licence Application form (OfW450)
(PDF, 326.0 KB)

Ein Desg Prynu a Gwerthu Sbectrwm yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gael rhagor o wybodaeth ac eglurhad am brynu a gwerthu sbectrwm, neu os hoffech fasnachu. Gallwch gysylltu â’r Ddesg drwy:

post: Spectrum Trading Desk, Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, London SE1 9HA

e-bostspectrum.tradingdesk@ofcom.org.uk

ffôn: 020 7981 3083

ffacs: 020 7981 3052


Trading guidance notes (PDF, 668.3 KB)


Application for Spectrum Trading (Lease) (OfW512) (PDF, 220.7 KB)

Application for Spectrum Trading (OfW206)  (PDF, 211.8 KB)

Application for Spectrum Trading (Outright Transfer) (OfW437)  (PDF, 209.1 KB)

Due diligence form (PDF, 235.6 KB)

Yn ôl i'r brig