Datganiad: Cefnogi dyfodol di-wifr y DU – Ein strategaeth rheoli sbectrwm ar gyfer y 2020au

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2020
Ymgynghori yn cau: 26 Chwefror 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 19 Gorffennaf 2021

Rydym wedi nodi tri maes o ffocws cynyddol sy'n rhan annatod o gyflawni ein gweledigaeth. Mae'r meysydd ffocws newydd hyn yn sefyll ochr yn ochr â'n hymagwedd hirsefydledig at reoli sbectrwm, sy'n dibynnu ar fecanweithiau'r farchnad lle bo'n bosib a'r defnydd o drosolau rheoleiddio fel y bo angen.

Cefnogi arloesedd di-wifr: Ei gwneud hi’n haws byth i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr gael gafael ar sbectrwm, a hynny drwy:

  • Ddatgloi mwy o sbectrwm ar gyfer arloesedd cyn bod sicrwydd o ran ei ddefnydd hirdymor yn y dyfodol;
  • Gweithio i gefnogi arloesedd mewn perthynas â thechnolegau diwifr newydd, gan gynnwys drwy ddylanwadu ar safonau a phenderfyniadau rhyngwladol er mwyn iddynt fod yn ddigon hyblyg i gefnogi mathau newydd o ddefnydd;
  • Ehangu ein gwaith i ddeall, cynorthwyo a chyfeirio'r amrywiaeth eang o sefydliadau a allai elwa o dechnolegau di-wifr yn y dyfodol;

Trwyddedu i weddu i wasanaethau lleol a chenedlaethol: Cefnogi amrywiaeth gynyddol o wasanaethau a darparwyr di-wifr drwy ystyried dewisiadau pellach ar gyfer mynediad lleol at sbectrwm wrth awdurdodi mynediad newydd at sbectrwm. Gall mynediad lleol fod yn addas i amrywiaeth o fusnesau a gwasanaethau arbenigol mewn safleoedd fel ffatrïoedd, meysydd awyr a ffermydd anghysbell, nad oes angen iddynt ddefnyddio sbectrwm ar draws y DU gyfan. Gall trwyddedau mwy, gan gynnwys rhai cenedlaethol, gefnogi darpariaeth eang ar gyfer gwasanaethau symudol cyhoeddus.

Hyrwyddo rhannu sbectrwm: Annog defnyddwyr i rannu sbectrwm ag eraill. Wrth i arloesedd arwain at ragor o alw am adnodd sbectrwm cyfyngedig, mae’n bwysicach byth i ddefnyddwyr rannu mynediad ag eraill. Ochr yn ochr â'n hopsiynau awdurdodi hyblyg, gall technoleg helpu drwy ddarparu offer rhannu newydd a chreu cyfleoedd ar gyfer ymagwedd newydd at rannu amleddau uwch. Byddwn yn annog:

  • Defnyddio data gwell a dadansoddiadau mwy soffistigedig wrth asesu amodau rhannu;
  • Gwneud systemau di-wifr yn fwy gwydn yn erbyn ymyriant o’u cymdogion;
  • Cydbwysedd effeithlon rhwng lefel y diogelwch rhag ymyriad a roddir i un gwasanaeth, a’r hyblygrwydd i eraill drawsyrru.

Ymatebion

How to respond

Yn ôl i'r brig