Mae arwerthiant sbectrwm nesaf y Deyrnas Unedig wedi symud gam sylweddol yn nes, wrth i Ofcom gyhoeddi testun y rheoliadau terfynol (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig) heddiw. Bydd y testun hwn, a allai gael ei ddiwygio ychydig, yn dod i rym ac yn dod yn gyfraith ddechrau 2025.
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn rhyddhau sbectrwm yn y bandiau 25.1-27.5 GHz a 40.5-43.5 GHz, sef tonnau milimetr, neu mmWave. Mae’r bandiau’n rhai amledd uchel ac yn addas iawn ar gyfer cludo llawer iawn o ddata mewn trefi a dinasoedd dwys eu poblogaeth. Mae’n arbennig o briodol ar gyfer mannau lle mae llawer o bobl, fel stadia, strydoedd prysur, lleoliadau cyngerdd a gorsafoedd trenau.
Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig) heddiw ar gyfer partïon sy’n ystyried cymryd rhan yn yr arwerthiant, gan gynnwys:
- canllawiau ymarferol i helpu cyfranogwyr i ddeall yr arwerthiant, gan gynnwys sut i wneud cais, ac amserlen fras ar gyfer pob cam o’r broses ddyfarnu;
- gwybodaeth am y sbectrwm rydyn ni’n ei ryddhau a’r amodau ar gyfer defnyddio’r sbectrwm;
- gwybodaeth am ble bydd y sbectrwm yn cael ei drwyddedu i’w ddefnyddio.
Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal yn 2025 ac rydyn ni’n disgwyl darparu diweddariad pellach ar yr amserlen cyn diwedd y flwyddyn hon.