Datganiad wedi’i gyhoeddi ar 29 Medi 2022
Un o flaenoriaethau Ofcom yw sicrhau bod pobl sydd mewn dyled, neu sy’n ei chael hi’n anodd talu, yn cael eu trin yn deg gan eu darparwr cyfathrebiadau. Er mai dim ond cyfran gymharol fach o gwsmeriaid band eang a symudol sy’n tueddu i fynd i ôl-ddyledion, gall dyled fod yn straen a allai gael effaith sylweddol ar iechyd meddwl unigolyn. Yn yr amgylchedd economaidd presennol, rydym yn ymwybodol y gallai fod yn anodd i fwy o bobl dalu neu syrthio ar ei hôl hi gyda’u biliau oherwydd bod prisiau manwerthu’n codi a phwysau ehangach ar gostau byw.
Mae gennym reolau eisoes yn eu lle – Amodau Cyffredinol – sy’n mynnu bod darparwyr yn sicrhau bod cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn ariannol yn cael eu trin yn deg, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hunain mewn dyled. Mae gennym hefyd ganllaw Trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg (“y canllaw”) sy’n awgrymu mesurau arfer da y gallai darparwyr eu rhoi ar waith, i helpu i sicrhau eu bod yn trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg ac yn sicrhau canlyniadau da i’r cwsmeriaid hynny.
Yn dilyn Cais am fewnbwn ym mis Gorffennaf 2021 ac adolygiad o’r canllaw, y gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad arno ym mis Mawrth 2022, rydym wedi penderfynu cryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer pobl sydd mewn dyled neu sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau, drwy adolygu ein canllaw. Cyhoeddir y canllaw diwygiedig fel dogfen ar wahân.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Manylion cyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA