Ymgynghoriad: Ansawdd gwasanaeth Openreach – newidiadau i gynigion a wnaed fel rhan o’r adolygiad o’r farchnad telegyfathrebiadau sefydlog cyfanwerthol

Cyhoeddwyd: 23 Hydref 2020
Ymgynghori yn cau: 4 Rhagfyr 2020
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Ym mis Ionawr 2020, fe wnaethom ymgynghori ar ein hadolygiad o'r marchnadoedd telegyfathrebiadau sefydlog cyfanwerthol (WFTMR) ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2026. Roedd hyn yn cynnwys cynigion ar atebion ansawdd gwasanaeth ar gyfer y marchnadoedd mynediad lleol cyfanwerthol, mynediad llinellau ar brydles a marchnadoedd cysylltedd rhyng-gyfnewidfa, lle roeddem wedi nodi dros dro bod gan BT bŵer sylweddol yn y farchnad.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi rhai newidiadau i’r cynigion hyn, ac rydym wedi’u gwneud yn dilyn ymatebion i’n hymgynghoriad ym mis Ionawr, yn ogystal â newidiadau i arferion adrodd am namau ers hynny, ac ystyried Covid-19.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich hymatebion drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriadau (ODT, 50.4 KB).

How to respond

Yn ôl i'r brig