Datganiad: Dileu ffacs o'r rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol ar BT a KCOM

Cyhoeddwyd: 1 Tachwedd 2022
Ymgynghori yn cau: 1 Rhagfyr 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Cyhoeddi’r datganiad ar 13 Ionawr 2023

Mae’r Senedd wedi cael gwared ar wasanaethau ffacs o’r ddeddfwriaeth Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol, yn dilyn ymgynghoriad gan Ofcom ym mis Tachwedd 2021. Gwnaed y diwygiad hwn yn sgil symud rhwydweithiau teleffoni i dechnoleg protocol rhyngrwyd, sy’n golygu na fydd gwasanaethau ffacs yn gweithio yn yr un ffordd ar ôl symud i rwydweithiau protocol rhyngrwyd. Mae hefyd yn adlewyrchu mai ychydig iawn o ddefnydd a wneir o wasanaethau ffacs yn y DU erbyn hyn, ac mae amrywiaeth o ddewisiadau eraill ar gael yn rhad ac am ddim, neu am bris isel.

Rydyn ni wedi diwygio ein rheolau i ddileu’r gofyniad i BT a KCOM ddarparu gwasanaethau ffacs o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol. Nid yw’r newid hwn yn golygu y bydd gwasanaethau ffacs yn stopio gweithio ar unwaith, ond yn hytrach ni fydd yn rhaid i BT a KCOM ddarparu ffacs o dan ein rheolau mwyach – bydd yn sicrhau bod ein rheolau’n adlewyrchu’r gofynion yn y ddeddfwriaeth gwasanaeth cyffredinol ac nad oes gormod o faich arnynt.

Bydd angen i ddefnyddwyr presennol y system ffacs chwilio am ddewisiadau amgen (megis e-bost) cyn i’w rhwydweithiau teleffoni gael eu mudo i brotocol rhyngrwyd - bydd yr amserlenni ar gyfer hyn yn dibynnu ar eu darparwr ffôn, ond disgwylir y bydd hynny cyn diwedd 2025

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig