Adolygiad Ofcom o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol: Gwella Mynediad i Bolion a Phibelli

Cyhoeddwyd: 20 Ebrill 2017
Ymgynghori yn cau: 15 Mehefin 2017
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae’r ymgynghoriad hwn yn disgrifio cynigion Ofcom i wella mynediad i rwydwaith polion a phibellau tanddaearol BT sy’n cludo ceblau telegyfathrebiadau. Bydd gwella mynediad i bibellau a pholion yn ei gwneud hi’n gynt ac yn haws i ddarparwyr sy’n cystadlu adeiladu eu rhwydweithiau ffibr eu hunain, gan hyrwyddo cystadleuaeth seiliedig-ar-seilwaith. Mae’r ddogfen hon yn rhan o’n hadolygiad o'r farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol ac yn esbonio sut bydd y cynigion hyn yn mynd i'r afael â’r pryderon sy’n gysylltiedig â chystadleuaeth sy’n codi yn sgil pŵer sylweddol BT yn y farchnad.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Shaun Tey
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig