Mae'n ofynnol i'r Post Brenhinol ddarparu gwasanaethau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth ar gyfer pob preswylfa yn y DU (mae eithriadau'n berthnasol mewn rhai achosion anghyffredin).
Mae llawer o fusnesau yn defnyddio'r un gwasanaethau Post Brenhinol â defnyddwyr preswyl
Fodd bynnag, os ydych chi'n anfon llawer o lythyrau a pharseli, gwiriwch opsiynau eraill. Mae amrywiaeth o wahanol dariffau a gwasanaethau parseli (megis tracio a chasglu o'ch safle) ar gael i gwsmeriaid busnes.
Mewn rhai ardaloedd o'r DU, mae gweithredwyr amgen i'r Post Brenhinol yn casglu ac yn darparu post safonol yn uniongyrchol i'ch cwsmeriaid. Nid oes angen disgownt maint neu wariant bob amser ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Mae ffrancio'n ffordd o argraffu tollau postio rhagdalu ar lythyrau neu labeli gan ddefnyddio peiriant ffrancio gyda chyfrif credyd. Mae busnesau'n talu prisiau postio is o'i gymharu â stampiau, ond mae angen prynu neu rentu peiriant ffrancio. Mae costau cynnal a chadw ac archwilio blynyddol. Mae llawer o wasanaethau y gellir eu prynu gyda pheiriant ffrancio'n wasanaethau cyffredinol a reoleiddir. Dim ond gwasanaethau'r Post Brenhinol y gellir eu prynu gan ddefnyddio peiriannau ffrancio.
Gall busnesau hefyd gyrchu gostyngiadau i'r pris stamp os oes ganddynt gyfrif gyda'r Post Brenhinol. Mae hyn yn amodol ar isafswm gwariant bob blwyddyn.
Gwasanaethau post busnes 'swmp': Mae llawer o'r post yn rhoi gostyngiadau ar stampiau i fusnesau sy'n postio llawer o bost, neu sy'n didoli eu post eu hunain yn fewnol. Mae'r isafswm cyfaint (neu wariant) yn amrywio ac yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych chi'n eu dewis.
Gwasanaethau pacedi a pharseli: Mae cwmnïau parseli gwahanol yn gweithredu drwy siopau stryd fawr, neu gallant gasglu parseli'n uniongyrchol o'ch safle cyn eu didoli a'u danfon i'ch cwsmeriaid. Mae opsiynau'n fwy tebygol o fod ar gael i fusnesau sy'n anfon meintiau mawrion o nwyddau, ond mae ystod o wasanaethau i fusnesau llai (a defnyddwyr preswyl) hefyd.
Edrychwch ar wefannau darparwyr am fwy o fanylion neu i gymharu prisiau.
Mae eich hawliau a sut i gwyno yn wahanol os nad ydych chi'n defnyddio gwasanaeth y Post Brenhinol. Mae mwy o wybodaeth yn ein hadran Gwasanaethau post: gwybod eich hawliau.