Ydych chi’n cael problemau â'ch ffôn symudol? Ydych chi’n dechrau colli signal neu ydy’r ffôn yn datgysylltu ar ganol galwad?
Rydym yn gwybod y gall fod yn rhwystredig pan fydd pethau’n mynd o chwith. Os ydych chi’n cael problemau, mae’r canllaw hwn yn egluro sut gallwch chi eu datrys.
Ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau yn ddiweddar?
Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith adeiladu o gwmpas eich cartref, fel cynyddu nifer y waliau neu drwch unrhyw waliau? Mewn rhai achosion, gallai hyn effeithio ar gryfder eich signal symudol.
I gael rhagor o gyngor, darllenwch ein canllaw i wella’ch darpariaeth dan do.
Ydych chi'n cael problemau mewn un lleoliad, neu ydyn nhw'n digwydd ymhob man rydych yn defnyddio’ch ffôn?
Gwnewch nodyn o’r broblem - ble, pryd a beth ddigwyddodd. Bydd hyn yn ddefnyddiol os bydd angen i chi siarad â’ch darparwr am y broblem.
Os ydych chi’n cael problemau defnyddio’ch ffôn mewn man lle nad ydych wedi ceisio’i ddefnyddio o’r blaen, ewch i chwilio am lefel y signal a ddylai fod ar gael yn y lleoliad hwnnw. Defnyddiwch wiriwr darpariaeth symudol Ofcom.
Symud tŷ?
Os ydych chi’n symud tŷ, holwch i weld pa fath o wasanaeth gall eich darparwr ei gynnig i chi yn eich cyfeiriad newydd. Gallwch wneud hyn drwy siarad â’ch darparwr neu drwy ddefnyddio gwiriwr darpariaeth Ofcom.
Os na all eich darparwr gynnig y lefel o wasanaeth byddwch chi ei hangen yn eich cyfeiriad newydd, gofynnwch iddyn nhw faint byddech chi angen ei dalu os byddech chi eisiau canslo. Efallai bydd cyfarpar cryfhau signal neu offer arall i helpu i wella’r ddarpariaeth hefyd ar gael. Ni fyddai pob cwmni'n gofyn i chi dalu tâl terfynu cynnar dan yr amgylchiadau hyn.
A oes nam ar eich ffôn neu SIM?
Os ydych chi’n cael trafferthion ymhob man, efallai mai eich ffôn ydy'r broblem.
Gofynnwch i’ch darparwr am gyngor. Efallai bydd yn gofyn i chi wneud ychydig o wiriadau i weld beth sy’n digwydd. Er enghraifft, efallai bydd yn gofyn i chi dynnu’ch cerdyn SIM, ei lanhau, a’i ailosod i weld a fydd hynny’n helpu. Hefyd efallai bydd yn gofyn i chi ei osod mewn dyfais arall (heb ei gloi) i ganfod ai’ch cerdyn SIM neu eich ffôn syn achosi’r broblem.
Ydy'r broblem yn effeithio ar bobl eraill?
Efallai fod y broblem yn fwy cyffredinol na dim ond eich ffôn symudol chi.
Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig gwiriwr gwasanaeth neu statws - naill ai ar-lein neu drwy ap - sy’n rhestru problemau mawr mae rhwydweithiau’n gwybod amdanyn nhw.
Dylai'r wybodaeth hon hefyd fod ar gael dros y ffôn - naill ai drwy neges awtomatig, neu gan dîm gwasanaeth i gwsmeriaid eich darparwr. Yn aml bydd yr wybodaeth hon yn dweud wrthych chi pryd byddan nhw’n disgwyl i’r broblem gael ei datrys.
Os nad ydy’ch problem chi wedi’i rhestru ar y gwiriwr gwasanaeth, holwch eich darparwr oherwydd efallai nad yw’n ymwybodol ohoni eto.
Os ydych chi wedi bod heb y lefel o wasanaeth a gafodd ei addo i chi, efallai byddwch chi’n gallu hawlio rhyw fath o iawndal - edrychwch isod.
Pwy sy'n gyfrifol am drwsio'r nam?
Mae eich contract chi gyda’ch darparwr, felly nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod namau’n cael eu trwsio ac am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd sy’n cael ei wneud.
Beth os nad ydy fy narparwr i yn berchen ar y rhwydwaith?
Eich darparwr sy’n gyfrifol hyd yn oed os yw’n defnyddio rhwydwaith cwmni arall i ddarparu’i wasanaeth i chi.
Pa mor hir dylwn i aros i'r nam gael ei drwsio?
Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai eich darparwr allu canfod yn weddol gyflym beth aeth o’i le. Os mai bai ar wasanaeth rhwydwaith ydyw, dylen nhw ddweud wrthych sut a phryd caiff ei drwsio.
Gofynnwch i’ch darparwr sut bydd yn rhoi gwybod i chi am y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda'r trwsio. Efallai bydd hyn drwy eu tîm gwasanaeth i gwsmeriaid, ap gwasanaeth neu wrth i chi gofrestru i gael diweddariadau am namau.
Rhowch gyfnod rhesymol i’ch darparwr drwsio’r broblem. Os ydych chi wedi gwneud hyn yn barod ac yn poeni am yr amser mae’n ei gymryd i drwsio'r nam, cyfeiriwch eich pryderon at eich darparwr.
Aros mewn cysylltiad wrth i namau gael eu datrys
Holwch eich darparwr os ydyn nhw’n cynnig ffyrdd eraill o gael gafael ar eich gwasanaeth tra bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud. Efallai byddwch yn gallu gwneud galwadau neu anfon negeseuon testun gan ddefnyddio cysylltiad wi-fi – gweler uchod.
Oes hawl gen i gael iawndal?
Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai ei bod hi’n briodol i’ch darparwr gynnig rhywfaint o arian yn ôl i chi wrth i’r gwaith trwsio gael ei wneud.
Mewn achosion mwy eithafol, os bydd y gwaith trwsio'n cymryd llawer mwy o amser, efallai bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad ychwanegol neu gredyd ar eich cyfrif.
Os ydych chi wedi bod heb y gwasanaeth am gyfnod, efallai bydd gennych hawl i adael y contract heb gosb. Efallai fod un o’r telerau yn eich contract yn dweud y gallwch wneud hyn os yw’ch darparwr wedi methu yn ei ddyletswyddau i chi neu wedi torri un o'r prif amodau.
Sut mae cwyno?
Os bydd eich darparwr yn methu â thrwsio nam erbyn y dyddiad a addawyd, neu os ydych chi’n anfodlon â'r amser mae’n ei gymryd, dilynwch weithdrefn gwyno ffurfiol eich darparwr. Dylai gwefan y darparwr neu’r tîm gwasanaeth i gwsmeriaid egluro hyn.
Os bydd eich problem yn dal heb ei datrys ar ôl wyth wythnos, gallwch chi gwyno wrth gynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) annibynnol. Gofynnwch i’ch darparwr am lythyr ‘sefyllfa ddiddatrys’ er mwyn i chi allu cyfeirio eich anghydfod at y cynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod perthnasol yn uniongyrchol cyn y terfyn wyth wythnos.
Mae dau gynllun ADR ar gael: Communications and Internet Services Adjudication Scheme (CISAS) a Communications Ombudsman, a rhaid i bob darparwr gwasanaeth fod yn aelod o un o'r cynlluniau hyn.
Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein teclyn gwirio ADR.
Dweud wrth Ofcom
Os ydych chi wedi cael profiad namau neu waith trwsio sydd heb ei gwblhau, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein ffurflen fonitro fer.
Er nad yw Ofcom yn archwilio cwynion unigol, mae eich help chi yn tynnu sylw at broblemau yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith ac efallai fe wnawn ni archwilio cwmni os ydy’r data monitro yn datgelu problem benodol.
Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig nifer o ffyrdd i gysylltu â nhw ynghylch nam. Mae’r rhain yn cynnwys dros y ffôn, ar-lein, swyddogaeth ‘sgwrsio byw’ neu ap gwasanaeth.
Cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted ag sy’n bosibl a cheisio disgrifio’r nam. Disgrifiwch y camau rydych chi wedi’u cymryd yn barod ac eglurwch sut mae’r broblem yn effeithio ar sut rydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth.
Efallai bydd angen i chi egluro:
- ar ba adeg o'r dydd ac ym mha leoliad mae hyn yn effeithio arnoch chi;
- a yw’n effeithio ar wasanaeth llais, testun a data; ac
- ydy'r broblem yn digwydd yn achlysurol neu drwy’r amser.
Os oes modd, anfonwch gofnod o’r ymyriadau i’ch gwasanaeth at eich darparwr ynghyd â pha mor hir roedd pob ymyriad wedi para.