Ymchwiliad i ddarpariaeth EE o wybodaeth gontract

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Ar gau

Ymchwiliad i

EE Limited (EE)

Achos wedi’i agor

4 Hydref 2022

Achos ar gau

1 Ionawr 2018

Crynodeb

Ymchwiliad i gydymffurfiaeth EE â'i rwymedigaeth i roi gwybodaeth am gontract a chrynodeb o'r contract i gwsmeriaid cyn iddynt ymgymryd â chontract.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 a C5.16.

Ofcom has today opened an investigation into British Telecommunications Plc's (BT's) compliance with its obligation to provide customers with contract information and a contract summary before they enter a binding contract.

The investigation will consider if BT, including its subsidiaries EE and Plusnet Plc, has contravened General Conditions C1.3 to C1.7 and C5.16.

Given we are assessing EE’s compliance with the relevant General Conditions as part of the wider BT investigation, we are closing this page. Please see the BT contract information investigation page for all future updates.

Heddiw, mae Ofcom yn agor ymchwiliad i gydymffurfiaeth EE â'i rwymedigaeth i roi gwybodaeth am gontract a chrynodeb o'r contract i gwsmeriaid cyn iddynt ymgymryd â chontract rhwymol.

Ers 17 Mehefin 2022, bu'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cyfathrebu perthnasol roi crynodeb i ddefnyddwyr, mentrau micro a bach a chwsmeriaid nid-er-elw o brif delerau eu contract, a gwybodaeth am y contract o ran bodloni gofynion yn yr Atodiad i Amod Cyffredinol C1, cyn iddynt ymgymryd â chontract rhwymol ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu electronig cyhoeddus.

Mae'n rhaid i ddarparwyr hefyd, ar gais, ddarparu unrhyw wybodaeth am gontract neu grynodeb o gontract, mewn fformat sy'n weddol dderbyniol yn rhad ac am ddim i unrhyw gwsmer sydd ei angen o ganlyniad i'w anableddau. Er enghraifft, efallai y byddant yn darparu'r un wybodaeth mewn print bras neu Braille.

Bwriedir i'r rheolau hyn alluogi pob cwsmer i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â'r gwasanaethau a gynigir iddynt.

Mae Ofcom wedi derbyn gwybodaeth sy'n rhoi rheswm dros amau bod EE o bosib wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn, fel y nodir yn Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 a C5.16. Byddwn yn cywain rhagor o wybodaeth ac yn diweddaru'r dudalen hon wrth i'n hymchwiliad fynd yn ei flaen.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01262/08/22

Yn ôl i'r brig