Os ydych chi'n gweld eich bod wedi colli galwad ar eich ffôn symudol wrth rif nad ydych yn ei adnabod, mae angen i chi gymryd gofal cyn ffonio nôl.
Mae hyn oherwydd bod yna bosiblrwydd, pan rydych chi yn ffonio nôl, gallai fod yn sgam i ddwyn arian wrthoch chi.
Dyma esboniad am sgamiau 'colli galwadau', sut i'w hadnabod a beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich sgamio.
Sut mae nhw'n gweithio?
Mae sgamwyr yn defnyddio systemau awtomatig i alw rhifau symudol.
Yn aml mae'r alwad yn parhau am lai nag eiliad ac yn ymddangos fel galwad rydych wedi ei golli.
Mae'r galwadau fel arfer o rifau yn dechrau 070 neu 076 (sy'n ymddangos fel rhifau symudol ond sy'n costio llawer mwy i'w galw) neu o rifau sy ddim yn ddaearyddol fel y rhai sy'n dechrau gyda 084, 087, 090, 091 neu 118.
Mae pwy bynnag sy'n galw'r rhif yn gorfod talu amdano.
Beth gallwch chi wneud?
Os ydych wedi colli galwad wrth rif nad ydych yn adnabod, peidiwch ffonio nôl yn syth. Mae angen bod yn ofalus yn arbennig os ydych yn derbyn galwadau wrth rifau nad ydych yn eu hadnabod sy'n dechrau gyda 070/076, 084/087, 090/091 neu 118. Bydd pobl gonest sy'n galw yn gadael neges neu'n galw eto.
I warchod rhag gwneud galwadau ar ddamwain (fel galw rhif pan eich ffôn yn eich poced neu fag er enghraifft), gwnewch yn siŵr eich bod yn gwaredu'r rhif amheus o'ch rhestr galwadau. Peidiwch roi manylion eich teulu neu ffrindiau ar hafan eich ffôn fel rhifau llwybr byr a rhowch glo arno. Bydd hyn yn atal unrhyw ddefnydd o'ch dyfais nes eich bod wedi rhoi rhif PIN, patrwm neu gyfrinair i'w agor.
Gallwch hefyd wahardd galwadau i rifau rhyngwladol neu rifau premiwm uchaf. Gall eich darparwr roi cyngor i chi am hyn.
Os ydych yn meddwl eich bod chi wedi cael cam oherwydd sgam colli galwadau, cysylltwch gyda'ch darparwr cyn gynted ag y medrwch chi.
Dylech chi hefyd gysylltu â Action Fraud, canolfan cenedlaethol adrodd am dwyll y DU.