Mae galwadau sgam sy’n defnyddio set benodol o rifau ffôn wedi gostwng yn ddramatig, ar ôl i Ofcom gyflwyno rheolau newydd flwyddyn yn ôl.
Mae data a gyhoeddwyd gan y darparwr cyfathrebiadau rhyngwladol BICS yn awgrymu bod galwadau twyllodrus sy’n defnyddio rhifau 070 wedi gostwng 75% rhwng mis Hydref 2019 a mis Medi 2020 – mae hyn yn gyfystyr â deg miliwn yn llai o alwadau sgam.
Mae hyn yn dilyn ein penderfyniad i gapio cost gyfanwerthol cysylltu galwadau 070, a ddaeth i rym ym mis Hydref y llynedd.
Mae rhifau 070 ar gyfer gwasanaeth ‘dilynwch fi’, sef dargyfeirio galwadau o un rhif ffôn i un arall er mwyn i’r person sy’n cael ei ffonio allu cadw ei rif ei hun yn breifat. Ond maent yn aml yn cael eu camgymryd am rifau symudol (sy’n dechrau gyda ‘07’), er ei bod yn gallu bod yn ddrutach ffonio'r rhifau hyn.
Roeddem yn poeni bod y rhifau hyn yn cael eu defnyddio i dwyllo pobl, ar ôl dod o hyd i dystiolaeth o sgamiau, er enghraifft galwadau a gollwyd a hysbysebion swyddi ffug. Cyn cyflwyno ein cap prisiau, amcangyfrifir bod o leiaf 20% o alwadau 070 yn cynnwys rhyw fath o weithgarwch twyllodrus.
I fynd i’r afael â hyn, fe wnaethom osod cap ar y prisiau cyfanwerthol y gall cwmnïau eu codi am gysylltu galwadau 070. Mae hyn nawr ar yr un lefel â galwadau i rifau symudol – tua 0.5 ceiniog y funud ar hyn o bryd – a oedd yn dileu’r cymhelliant ar gyfer sgamiau drwy dorri’r elw y gellid ei wneud yn sgil defnyddio’r rhifau hyn yn sylweddol.
Mae canfyddiadau BICS yn seiliedig ar ddata torfol gan dros 900 o ddarparwyr ledled y byd.
Dywedodd Katia Gonzalez, pennaeth atal twyll yn BICS: “Mae gwaith rheoleiddio Ofcom yn gam gwych ymlaen, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli rheoleiddwyr eraill i fabwysiadu rheolau tebyg.”
Mae rhai cwmnïau ffôn yn cynnwys galwadau i rifau 070 mewn lwfansau galwadau munudau am ddim. Fodd bynnag, dydy rhai ddim yn gwneud hynny, a gall galwadau gostio tua 50c y funud o hyd o linell dir neu 86c y funud o ffôn symudol. Felly, dylech bob amser holi eich darparwr cyn i chi ddeialu.