Mae mwy o bobl yn dechrau contractau newydd ac yn bachu bargeinion gwell gyda'u darparwr band eang ar ôl cael eu hatgoffa am ddiwedd eu contract, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom.
Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Ofcom reolau sy'n mynnu bod darparwyr ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu'n rhybuddio cwsmeriaid pan fydd eu contract presennol yn dod i ben, a'r hyn y gallent ei arbed trwy ymrwymo i gontract newydd.
Dengys ein dadansoddiad o adnewyddu contractau band eang fod cwsmeriaid wedi ymrwymo i fargeinion gwell o ganlyniad i'r hysbysiadau diwedd contract hyn
Gwelodd Plusnet y cynnydd mwyaf (13 pwynt canrannol) yn nifer y cwsmeriaid sy'n ymrwymo i fargen newydd o ganlyniad i dderbyn un o'r hysbysiadau hyn. Gwelodd BT, EE a Virgin Media gynnydd tebyg (10 pwynt canrannol).
Gwnaethom edrych hefyd ar y pris y mae cwsmeriaid yn ei dalu ar ôl dechrau contract newydd. Gwelsom fod rhai cwsmeriaid yn arbed mwy na £110 y flwyddyn ar gyfartaledd ar ôl dechrau contract newydd wrth ymateb i hysbysiad.
Yn wir, talodd cwsmeriaid rhai darparwyr bris uwch ar gyfartaledd ar ôl ymrwymo i fargen newydd, a allai adlewyrchu'r ffaith eu bod wedi ymrwymo i becyn cyflymach.
Mae'r canfyddiadau'n dilyn ymchwil gan Ofcom a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021 a nododd fod y nifer o gwsmeriaid band eang sydd allan o gontract wedi gostwng o 8.7 miliwn (40%) yn 2019 i 7.4 miliwn (35%) yn 2020.
Mae'n galonogol i weld mwy o bobl yn arbed arian ar ôl i ni ei wneud yn haws i fachu bargen well.
Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan fydd cyllidebau cartrefi o dan straen mawr, gan y gall yr arbedion posib fod yn sylweddol. Felly mae'n werth gwirio a ydych allan o gontract, a gweld pa fargeinion sydd ar gael.
James Mackley, Cyfarwyddwr Economeg Ofcom