Datganiad a gyhoeddwyd 11 Mawrth 2022
Mae Ofcom wedi penderfynu diwygio'r rheolau sy'n llywodraethu'r defnydd o rifau ffôn yn y DU, er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd y newidiadau mawrion sy'n digwydd yn rhwydweithiau'r wlad i ystyriaeth, ac yn parhau i hyrwyddo hyder defnyddwyr mewn gwasanaethau ffôn.
Mae galwadau ffôn yn wasanaeth hanfodol i lawer o bobl a busnesau. Fodd bynnag, mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio ffonau'n newid. Mae cyfathrebiadau symudol ac ar-lein yn cynyddu, ac mae'r defnydd o linellau tir yn dirywio'n gyffredinol. Mae'r rhwydwaith llinellau ffôn tir yn y DU - y rhwydwaith cyfnewidfeydd ffôn cyhoeddus (PSTN) - yn dod tuag at ddiwedd ei fywyd ac yn cael ei ddisodli'n raddol. Dros y blynyddoedd i ddod, caiff galwadau llinell dir eu cludo'n gynyddol dros rwydweithiau Protocol Rhyngrwyd (IP) mwy modern, gyda gwasanaethau ffôn llinell dir yn cael eu cyflwyno'n gynyddol dros gysylltiadau band eang.
Yn erbyn y cefndir hwn, rydym wedi bod yn adolygu ein llyfr rheolau ar gyfer rhifau ffôn yn y DU - sef y Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol. Amlinellwyd ein hymagwedd arfaethedig at yr adolygiad hwn yn ein Hymgynghoriad Cyntaf yn 2019. Yn ein Hail Ymgynghoriad yn 2021, cyflwynwyd cynigion yn ymwneud â rhifau daearyddol, ac yn y ddogfen hon rydym yn nodi ac yn esbonio ein penderfyniadau.