Heddiw, mae Ofcom wedi nodi’r hyn mae’n ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol pan fyddant yn diffodd eu rhwydweithiau 2G a 3G.
Bydd y rhwydweithiau hyn y cael eu diffodd dros y deng mlynedd nesaf er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau 4G a 5G, sy’n cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Er nad oes gan Ofcom rôl ffurfiol yn y broses ddiffodd, rydym eisiau sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg a’u bod yn gallu parhau i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae gweithredwyr yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain o ran yr amseriad a’r broses ddiffodd. Bydd Vodafone yn dechrau diffodd ei rwydwaith 3G yn raddol yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae disgwyl i EE a Three ddiffodd eu rhwydweithiau 3G yn 2024.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl ddyfeisiau 4G erbyn hyn ac felly ni fydd hyn yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, bydd angen i gwsmeriaid sy’n defnyddio dyfeisiau hŷn – gan gynnwys ffonau symudol, larymau teleofal a therfynellau talu – eu newid neu eu diweddaru.
Mae Ofcom wedi nodi pedwar prif beth maen nhw’n ei ddisgwyl gan ddarparwyr yn ystod y broses hon:
- Lleihau’r effaith ar ddarpariaeth: Mae EE, Three a Vodafone wedi ymrwymo i gynnig lefel gyfatebol o ddarpariaeth ar ôl diffodd y rhwydwaith 3G ac yna’r rhwydwaith 2G, gyda’r ardaloedd sy’n dibynnu ar y rhwydweithiau hun yn cael eu huwchraddio i 4G cyn eu diffodd. Rydym yn disgwyl i Virgin Media O2 (sydd heb bennu dyddiad ar gyfer diffodd ei rwydwaith 3G eto) wneud ymrwymiad tebyg. Ni ddylai cwsmeriaid brofi gostyngiad yn y ddarpariaeth o ganlyniad.
- Gwybodaeth gytundebol: lle bo hynny’n bosib, dylai darparwyr symudol egluro yng ngwybodaeth a chrynodeb eu contract pryd na fydd y gwasanaeth sy’n cael ei brynu yn gweithio mwyach oherwydd eu bod wedi cael eu diffodd bydd angen ffôn symudol 4G ar y cwsmer ar ôl y dyddiad hwnnw.
- Cyfathrebu â chwsmeriaid a rhoi cymorth iddynt: os bydd angen i gwsmeriaid newid neu ddiweddaru eu ffôn, rydym yn disgwyl i ddarparwyr ffonau symudol roi o leiaf dri i chwe mis o rybudd o’r camau y mae angen iddynt eu cymryd, a chyfathrebu yn glir, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i godi ymwybyddiaeth. Bydd angen rhoi cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid agored i niwed – gallai hyn gynnwys cynnig disgownt ar ffonau newydd.
- Gwasanaethau eraill sy’n dibynnu ar rwydweithiau symudol: bydd y broses ddiffodd hefyd yn effeithio ar amrywiaeth o ddyfeisiau eraill fel larymau teleofal a therfynellau talu. Bydd angen cyfnod rhybudd hirach ar gyfer y gwasanaethau hyn. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr symudol wneud pob ymdrech i ganfod y gwasanaethau hyn a helpu i godi ymwybyddiaeth fel bod gan gyflenwyr perthnasol ddigon o amser i ddiweddaru eu dyfeisiau ac nad yw defnyddwyr yn colli mynediad at wasanaethau hanfodol.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd rhwydweithiau symudol hŷn yn cael eu diffodd yn raddol er mwyn gwneud lle i wasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy.
Ond bydd angen cymorth ar rai pobl i uwchraddio eu dyfeisiau yn ystod y broses hon. Felly rydym wedi dweud wrth y rhwydweithiau symudol beth ddylen nhw ei wneud i sicrhau bod cymorth ar gael i’r rheini sydd ei angen.
- Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom