Helpu defnyddwyr band eang a ffôn symudol i gadw’r cysylltiad

Cyhoeddwyd: 25 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf: 5 Mawrth 2024
  • Wrth i deuluoedd weithio a dysgu gartref, mae Ofcom yn cyflwyno awgrymiadau ymarferol i gael y gorau o’ch cysylltiadau
  • Ewch i ofcom.in/cadwr-cysylltiad

Mae Ofcom yn lansio ymgyrch wybodaeth genedlaethol, a gefnogir gan Lywodraeth y DU a'r diwydiant, i helpu defnyddwyr band eang a gwasanaethau symudol i gael y gorau o’u cysylltiadau, wrth i filiynau o deuluoedd weithio a dysgu o gartref.

Mae’r ymgyrch, Cadw’r Cysylltiad, yn esbonio amrywiaeth o awgrymiadau a chyngor ymarferol i helpu pobl i gael y cyflymder a’r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt, mewn cyfnod pan fydd band eang a gwasanaethau symudol yn bwysicach nag erioed o ran helpu pawb i gyfathrebu.

Mae’r rhwydweithiau band eang a symudol yn gweld newid mewn patrymau galw wrth ymateb i'r coronafeirws (Covid-19), gan fod llawer o deuluoedd ar-lein gyda’i gilydd yn ystod y dydd wrth weithio a dysgu gartref.  Mae cwmnïau telathrebu'n monitro traffig ar eu rhwydweithiau’n gyson ac yn cymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Mae’r cwmnïau rhwydwaith yn hyderus y gallant gyflenwi'r galw cynyddol; a gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy helpu i reoli sut rydym yn defnyddio ein band eang, ein ffonau cartref a’n ffonau symudol.

Cadw'r Cysylltiad

Cyngor syml i gadw'r cysylltiad

Wrth i fwy o bobl yn y cartref ddefnyddio'r un cysylltiad, gall aelwydydd gymryd camau eu hunain i reoli eu defnydd o ddata fel bod pawb yn y cartref yn cael y lled band sydd ei angen arnyn nhw-boed hynny ar gyfer ffrydio fideos, cyfarfodydd rhithwir neu alwadau llais.

Mae Ofcom wedi nodi amrywiaeth o fesurau syml, yr ydym yn annog pobl i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol i helpu eraill i gadw'r cysylltiad hefyd.

Dywedodd Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae teuluoedd ar draws y DU yn mynd ar-lein gyda’i gilydd yr wythnos hon, ac yn aml maent yn jyglo gwaith a chadw’r plant yn brysur ar yr un pryd. Felly rydyn ni’n annog pobl i ddarllen ein cyngor ar gael y gorau o’u band eang, eu ffonau cartref a’u ffonau symudol - a’i rannu gyda ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr, i’w helpu i gadw'r cysylltiad hefyd.”

Dywedodd Oliver Dowden, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Ar hyn o bryd mae angen i bobl aros gartref i ddiogelu'r GIG ac achub bywydau. Mae cyflymder rhyngrwyd dibynadwy yn hanfodol er mwyn i ni allu gweithio o gartref lle y bo'n bosib, cadw mewn cysylltiad â'n teuluoedd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd.

“Rwy'n annog pawb i ddarllen awgrymiadau a chyngor defnyddiol Ofcom er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gorau o'u cysylltiadau band eang a rhyngrwyd symudol yn ystod y cyfnod eithriadol hwn."

Saith awgrym ar gyfer cadw’r cysylltiad

Rydyn ni’n dechrau heddiw gyda saith awgrym y gall pobl eu dilyn. Mae’n bosib dilyn y rhan fwyaf ohonyn nhw ar unwaith, am ddim.

1. Defnyddiwch eich llinell dir neu ffonio dros wi-fi os gallwch

Mae mwy o bobl yn gwneud galwadau ar eu rhwydwaith ffôn symudol yn ystod y dydd. Oherwydd y galw mawr, efallai y cewch chi gysylltiad mwy dibynadwy gan ddefnyddio eich llinell dir. Os oes angen i chi ddefnyddio’ch ffôn symudol, ceisiwch ddefnyddio’ch gosodiadau i alluogi ‘ffonio dros wi-fi’. Mae rhai ffonau clyfar a phecynnau ffôn symudol yn gadael i’ch ffôn wneud galwadau dros eich rhwydwaith band eang, sydd yn aml yn darparu’r ansawdd sain gorau ac mae hefyd yn helpu i leihau’r galw ar y rhwydwaith ffonau symudol. Yn yr un modd, gallwch chi wneud galwadau llais dros y rhyngrwyd drwy ddefnyddio apiau fel Facetime, Skype neu WhatsApp.

2. Symudwch eich llwybrydd i ffwrdd o ddyfeisiau eraill

Cadwch eich llwybrydd cyn belled â phosib oddi wrth ddyfeisiau eraill a phethau sy'n gweithio'n ddi-wifr. Gall ffonau di-wifr, teclynnau monitro babanod, bylbiau halogen, switshys pylu, seinyddion stereo a chyfrifiadur, setiau teledu a monitorau i gyd effeithio ar eich wi-fi os ydyn nhw’n rhy agos at eich llwybrydd. Wyddech chi y gall poptai microdon leihau signalau wi-fi hefyd? Felly peidiwch â defnyddio’r microdon os ydych chi’n gwneud galwadau fideo, yn gwylio fideos HD neu’n gwneud rhywbeth pwysig ar-lein. Hefyd, ceisiwch roi eich llwybrydd ar fwrdd neu ar silff yn hytrach nag ar y llawr, a chadwch ef ymlaen.

3. Gostyngwch y galw ar eich cysylltiad

Po fwyaf o ddyfeisiau sydd wedi'u cysylltu â'ch wi-fi, arafaf fydd y cyflymder a gewch. Mae dyfeisiau fel llechi a ffonau clyfar yn aml yn gweithio yn y cefndir, felly ceisiwch ddiffodd derbyniad wi-fi y rhain pan nad ydych chi’n eu defnyddio. Os ydych chi’n cynnal galwadau fideo neu gyfarfodydd, bydd diffodd y fideo a defnyddio sain yn lleihau'r baich ar eich cysylltiad rhyngrwyd yn sylweddol; neu defnyddiwch nhw ar adegau llai poblogaidd, yn lle ar yr awr neu hanner awr. Efallai y byddwch chi eisiau rheoli gweithgarwch ar-lein eich teulu, fel nad yw gwahanol bobl yn gwneud gormod o bethau (fel ffrydio HD, chwarae gemau neu alwadau fideo) ar yr un pryd. Mae llwytho fideo i lawr o flaen llaw, yn hytrach na’i ffrydio, yn gallu helpu hefyd.

4. Rhowch gynnig ar gysylltiad cebl yn hytrach na di-wifr

I gael y cyflymder band eang gorau, defnyddiwch gebl Ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur â’ch llwybrydd yn uniongyrchol yn hytrach na defnyddio wi-fi. Cebl rhwydweithio cyfrifiadurol yw hon a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi. Mae nhw ar gael am gyn lleied â £3.

5. Plwgiwch eich llwybrydd yn syth i’ch prif soced ffôn

Lle’n bosib, ceisiwch beidio â defnyddio ceblau estyniad ffôn, gan y gall y rhain achosi ymyriant a all gyfyngu ar eich cyflymder. Os oes rhaid i chi ddefnyddio cebl estyn, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel sydd cyn fyrred â phosib. Gall ceblau sydd wedi'u torchi neu eu clymu effeithio ar gyflymder hefyd. Gall ymyriant ar eich llinell ffôn arafu eich band eang hefyd. Felly, ceisiwch blwgio ‘microhidlyddion’ ym mhob soced ffôn yn eich cartref. Maen nhw’n edrych fel blychau bach gwyn ac yn gwahanu'r signalau ffôn a band eang fel nad ydyn nhw’n effeithio ar ei gilydd. Mae gan wahanol ddarparwyr wahanol systemau yn y cartref, felly cofiwch wirio eu gwefannau cyn datgysylltu unrhyw geblau.

6. Profwch gyflymder eich llinell band eang

Profwch pa gyflymder rydych chi’n ei gael mewn gwirionedd. Gallwch chi wirio pa gyflymder rydych chi’n derbyn trwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau a achredir gan Ofcom fel Broadband.co.ukbroadbandchoices.co.ukSimplifydigital. Os yn bosib, gwnewch y profion dros ychydig ddyddiau ac ar wahanol adegau o’r dydd.  Gall nifer o ffactorau yn y cartref effeithio ar gyflymder wifi, felly mynnwch gip ar wefan eich darparwr am gyfarwyddid ynghylch gwella eich signal o gwmpas y cartref. Gallwch chi lawrlwytho’r gwiriwr fel ap ffôn clyfar (chwiliwch am Ofcom yn siop apiau Apple neu yn Google Play) neu ei ddefnyddio drwy eich porwr rhyngrwyd.

7. Mynnwch gyngor wrth eich darparwr band eang

Os ydych chi’n meddwl nad yw eich cysylltiad yn gweithio’n ddigon da, gallwch ddod o hyd i gyngor ar wefan eich darparwr band eang -sydd hefyd ar gael ar gyfer ffonau symudol. Os oes angen i chi gysylltu â nhw am gyngor cofiwch, oherwydd y coronafeirws, fod gan rai cwmnïau lai o bobl ar gael i helpu gyda’ch ymholiadau. Mae’r rhan fwyaf yn blaenoriaethu cwsmeriaid agored i niwed a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, felly cofiwch ystyried hyn.

Gallwch chi gael rhagor o gyngor manwl ar wella eich cysylltiadau band eang a ffonau symudol yn ofcom.in/cadwr-cysylltiad. Byddwn yn cynnig awgrymiadau newydd bob dydd, felly dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl i'r brig