Datganiad: Cyfnewid fideo brys - cymeradwyo gwasanaeth Sign Language Interactions

Cyhoeddwyd: 17 Tachwedd 2021
Ymgynghori yn cau: 17 Rhagfyr 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae gwasanaethau cyfnewid fideo'n ffordd o alluogi pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) i gyfathrebu'n effeithiol â phobl nad ydynt yn defnyddio BSL. Mae'r defnyddiwr BSL byddar yn gwneud galwad fideo gan ddefnyddio dyfais gysylltiedig i ffonio person â chlyw mewn canolfan alwadau. Mae'r dehonglydd yn trosi'r hyn y mae'r defnyddiwr byddar yn ei ddweud i Saesneg llafar i'r person â chlyw ei glywed, ac yn arwyddo'r hyn y mae'r person â chlyw yn ei ddweud i'r defnyddiwr byddar.

Ym Mehefin 2021, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cyfathrebiadau ddarparu, neu gontractio i ddarparu, gwasanaeth cyfnewid fideo brys 24/7 am ddim a gymeradwyir gan Ofcom. Bu i ni hefyd nodi'r meini prawf y byddai angen eu bodloni er mwyn i wasanaeth cyfnewid fideo brys gael ei gymeradwyo.

Bu i ni wahodd ceisiadau ffurfiol am gymeradwyo gwasanaeth erbyn 1 Hydref 2021.

Gan gymryd cais ffurfiol Sign Language Interactions (gan gynnwys cyflwyniadau pellach) a'r holl ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad i ystyriaeth, rydym wedi penderfynu cymeradwyo gwasanaeth arfaethedig Sign Language Interactions  at ddibenion Amod Cyffredinol A5.

Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 27 Ionawr 2022 a bydd yn parhau'n weithredol oni bai ein bod yn ei dileu. Er ein bod o'r farn bod gwasanaeth arfaethedig Sign Language Interactions yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo, byddwn yn monitro perfformiad y gwasanaeth unwaith y bydd yn weithredol. Gallwn, ar unrhyw adeg, drwy hysbysu'r darparwr gwasanaeth yn ysgrifenedig, dileu ein cymeradwyaeth os ydym o'r farn nad yw'r darparwr gwasanaeth bellach yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo.

Diweddariad 11 Chwefror 2022 – Cynnig ffurfiol gan BT

Ers i ni gyhoeddi'r datganiad hwn, mae BT wedi cynnig yn ffurfiol y bydd yn cyfanwerthu mynediad i wasanaeth cyfnewid fideo brys Sign Language Interactions, yn amodol ar gytuno ar delerau gyda SLI. Gallwch ddarllen brîff BT (PDF, 124.6 KB) yn llawn.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Emergency video relay team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig