Datganiad: Darparu'r Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang

Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr 2018
Ymgynghori yn cau: 13 Chwefror 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Rydym ni eisiau i bobl ledled y Deyrnas Unedig gael mynediad at wasanaethau band eang a symudol gwell, fel bod pawb yn elwa o'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig. Mae hynny'n golygu hybu buddsoddiad mewn rhwydweithiau gwell a gwneud yn siŵr bod darpariaeth rhwydweithiau'n ymestyn cyn belled â phosib - hyd yn oed i'r ardaloedd anodd eu cyrraedd.

Ym mis Mawrth 2018, cyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth ar 'rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol' (USO) band eang sy'n rhoi hawl i gartrefi a busnesau ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy. Rydym ni’n croesawu'r USO band eang, rhan bwysig o'r gwaith o wella mynediad at wasanaethau band eang ledled y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweithio'n gyflym i'w roi ar waith, fel bod pobl yn gallu gofyn am gysylltiad ac yn gallu derbyn y gwasanaethau hyn cyn gynted â phosib.

Ar hyn o bryd rydym yn penodi BT a KCOM yn Ddarparwyr Gwasanaeth Cyffredinol ac yn gosod yr amodau perthnasol wrth iddyn nhw ddarparu'r cysylltiadau a'r gwasanaethau USO.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Jack Gaches
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig