Heddiw rydym yn cyhoeddi datganiad polisi mawr ar gyfer amddiffyn plant ar-lein.
Mae’r penderfyniad hwn yn garreg filltir fawr, gyda darparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant yn y DU bellach yn ofynnol yn gyfreithiol i amddiffyn plant rhag cynnwys sy’n niweidiol iddynt. Mae’r Codau a Chanllawiau Amddiffyn Plant a gyhoeddwyd heddiw yn adeiladu ar y rheolau yr ydym eisoes wedi’u rhoi ar waith i amddiffyn pob defnyddiwr, gan gynnwys plant, rhag niwed anghyfreithlon megis amddiffyn plant rhag cael eu hudo a’u camfanteisio’n rhywiol.
Ym mis Mai 2024, cyhoeddodd Ofcom gynigion am y camau y dylai darparwyr eu cymryd i fynd i’r afael â chynnwys sy’n niweidiol i blant ar eu gwasanaethau. Ers hynny, rydym wedi bod yn ymgynghori’n ofalus ac yn eang, gan wrando ar gwmnïau, ymgyrchwyr diogelwch plant a sefydliadau eraill – yn ogystal â phlant a’u gwarcheidwaid.
Yn benodol, fe wnaethom wrando’n ofalus ar yr hyn yr oedd plant yn ei feddwl o'n syniadau, mewn rhaglen ymgysylltu trafodol a oedd yn cynnwys gweithdai a chyfweliadau gyda phlant o ledled y DU. Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ymgysylltu heddiw.
Gyda chyhoeddiad heddiw, rhaid i ddarparwyr gymryd camau i gydymffurfio â’r rheolau hyn. Y canlyniad fydd bywyd mwy diogel ar-lein i blant yn y DU.
Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein o fewn cwmpas dyletswyddau'r plant bellach gwblhau a chofnodi asesiadau risg plant erbyn 24 Gorffennaf 2025. Yn amodol ar y Codau yn cwblhau'r broses Seneddol, o 25 Gorffennaf 2025, bydd angen iddynt gymryd y mesurau diogelwch a nodir yn y Codau neu ddefnyddio mesurau effeithiol eraill i amddiffyn plant rhag cynnwys sy’n niweidiol iddynt. Rydym yn barod i gymryd camau gorfodi os nad yw darparwyr yn gweithredu'n brydlon i fynd i'r afael â'r risgiau i blant ar eu gwasanaethau.
Rydym wedi cyhoeddi pum cyfrol yn nodi ein penderfyniadau, ynghyd â nifer o ddogfennau rheoleiddio a chanllawiau. Mae'r rhain wedi'u rhestru isod.
Mae ehangder a chymhlethdod y fframwaith diogelwch ar-lein yn golygu bod y dogfennau yr ydym yn eu cyhoeddi heddiw yn cwmpasu llawer o feysydd. Felly, rydym hefyd wedi cyhoeddi:
- Crynodeb o'r mesurau yn y Codau a'r gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a pheiriannau chwilio y maent yn berthnasol iddynt.
- Crynodeb o'n penderfyniadau sy'n nodi'r adborth a gawsom gan randdeiliaid, a'r penderfyniadau rydyn ni wedi'u cymryd.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn diweddaru ein hadnoddau ar gyfer gwasanaethau i ystyried y dyletswyddau plant newydd.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn diweddaru ein hadnoddau ar gyfer gwasanaethau i ystyried y dyletswyddau plant newydd.
Ochr yn ochr â'r datganiad hwn, rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n ceisio ehangu'r defnydd o'n mesurau blocio a thewi cyfrifon defnyddwyr ac analluogi sylwadau yn y Codau Cynnwys Anghyfreithlon i ystod ehangach o wasanaethau. Mae hyn oherwydd ein bod bellach yn ystyried y byddai'n gymesur i'r mesurau hyn fod yn berthnasol i rai gwasanaethau llai sy'n debygol o gael ei defnyddio gan blant. Rydym yn croesawu sylwadau rhanddeiliaid ar y cynigion hyn erbyn 5pm ar 22 Gorffennaf 2025.
Dyma’r ail ymgynghoriad mawr y bydd Ofcom, fel rheoleiddiwr y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yn eu cyhoeddi fel rhan o’n gwaith i sefydlu’r rheoliadau newydd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y mesurau rydyn ni’n eu cynnig ar gyfer sut y dylai gwasanaethau rhyngrwyd sy'n galluogi rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ('gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr') a gwasanaethau chwilio ymdrin â'u dyletswyddau newydd yn ymwneud â chynnwys sy'n niweidiol i blant.
Rydym yn ymdrin â:
- sut i asesu a yw eich gwasanaeth yn debygol o gael ei ddefnyddio gan blant;
- achosion ac effeithiau niwed i blant;
- sut y dylai gwasanaethau asesu a lliniaru'r risgiau o niwed i blant;
Mae’r mesurau rydyn ni’n eu cynnig yn adlewyrchu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gennym, yn ogystal â thystiolaeth a gasglwyd trwy ymgysylltu helaeth â diwydiant ac arbenigwyr eraill.