Fel rhan o becyn sancsiynau Llywodraeth y DU gan ddilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ddydd Mercher 27 Ebrill 2022 gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu reoliadau newydd yn cyfyngu ar ddarparu rhai gwasanaethau rhyngrwyd i, neu er budd, personau dynodedig (y Rheoliadau).
Ar hyn o bryd, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi enwi TV-Novosti a Rossiya Segodnya fel personau dynodedig at y dibenion hyn.
Daeth y Rheoliadau i rym ddydd Gwener 29 Ebrill 2022 ac maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau mynediad i'r rhyngrwyd, gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol a storfeydd apiau.
Ar 4 Mai 2022, cyhoeddodd Ofcom lythyr agored i'r diwydiant (PDF, 154.4 KB) (Saesneg yn unig) fu'n disgrifio gofynion y Rheoliadau a'n rôl wrth eu gorfodi.
Os ydych chi'n credu y gallai darparwr mynediad i'r rhyngrwyd, gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol neu storfa apiau fod wedi torri'r Rheoliadau, rydym wedi cyhoeddi cyngor ar beth i'w wneud.