Mae’r Bil Diogelwch Ar-lein bellach wedi pasio ei holl gamau yn Senedd San Steffan a bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn bo hir, gan olygu y bydd wedyn yn troi’n gyfraith. Bryd hynny, bydd Ofcom yn ymgymryd yn ffurfiol â'n rôl fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.
Meddai'r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae heddiw yn garreg filltir fawr yn yr ymgyrch i greu bywyd mwy diogel ar-lein ar gyfer plant ac oedolion y Deyrnas Unedig. Mae pawb yn Ofcom yn teimlo’n freintiedig bod ymddiriedaeth ynom i ymgymryd â’r rôl bwysig hon, ac rydym yn barod i ddechrau rhoi’r cyfreithiau newydd hyn ar waith.
“Yn fuan iawn ar ôl i’r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol, byddwn yn ymgynghori ar y set gyntaf o safonau y byddwn yn disgwyl i gwmnïau technoleg eu bodloni wrth fynd i’r afael â niwed anghyfreithlon ar-lein, gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol ar blant, twyll a therfysgaeth.”