Heddiw, rydym wedi cyhoeddi datganiad ar gydweithredu rhyngwladol i ddiogelu plant ar-lein, ochr yn ochr â’n partneriaid yn y Gweithgor Rhyngwladol ar Ddilysu Oedran.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr yng Ngwlad Belg, Cyprus, Ffrainc a’r Almaen i ffurfio’r gweithgor.
Ei nod yw sicrhau bod gan lwyfannau rhannu fideos (VSPs) o dan ein hawdurdodaethau fesurau rheoli mynediad cadarn ar waith i ddiogelu plant rhag cael gafael ar gynnwys fideo niweidiol ar eu gwasanaethau.
Mae’r datganiad heddiw yn ymgorffori’r ymrwymiad a rennir ac yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cydweithredu rhyngwladol.
Mae heriau diogelwch ar-lein yn fyd-eang eu natur ac mae llawer o’r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio yn gweithredu mewn sawl awdurdodaeth. Felly, mae cydweithio rhyngwladol rhagweithiol ymysg rheoleiddwyr yn hanfodol i ddiogelu plant ac i wneud yn siŵr bod trefniadau rheoleiddio yn effeithiol. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r gweithgor hwn sy’n helpu i hyrwyddo’r nodau hynny.
I Ofcom, mae bwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu sicrwydd oedran cadarn i ddiogelu plant rhag y cynnwys ar-lein mwyaf niweidiol yn un o’n blaenoriaethau strategol ar gyfer ail flwyddyn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos. Mae’r gweithgor rhyngwladol yn un o’r dulliau y byddwn yn ei ddefnyddio i wireddu’r flaenoriaeth hon.
Mae timau rhyngwladol a llwyfannau rhannu fideos Ofcom wedi cydweithio’n agos i gynrychioli Ofcom yn y gweithgor i ddysgu gan eraill, ar yr un pryd â rhannu gwybodaeth o’n hymchwil a’n gwaith o ddydd i ddydd i asesu pa mor gymesur ac effeithiol yw technegau AV.
Er enghraifft, rydym wedi rhannu ein hymchwil ar agweddau oedolion at ddilysu oedran ar safleoedd oedolion a’n hymchwil ar y cyd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar agweddau teuluoedd tuag at sicrhau oedran.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gydag Autorité de régulation de la communication audiovisuelle et numérique (Arcom), y Conseil Superieur de l’Audiovisuel (CSA), y Cyprus Radiotelevision Authority (CRTA) a’r Direktorenkonferenz dêr Landesmedienanstalten (DLM) i amddiffyn plant ar-lein.