Ymgynghoriad pellach ar niwed anghyfreithlon: Artaith a chreulondeb at anifeiliaid

Cyhoeddwyd: 2 Awst 2024
Ymgynghori yn cau: 13 Medi 2024
Statws: Agor

Mae Ofcom yn ymgynghori ar gryfhau ein codau ymarfer a’n canllawiau drafft ar niwed anghyfreithlon o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, drwy bennu bod creulondeb at anifeiliaid ac artaith ddynol yn fathau o gynnwys y mae’n rhaid i blatfformau fynd i’r afael â nhw.  

Yn ein Hymgynghoriad ar Niwed Anghyfreithlon ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom ymgynghori ar nifer o ddogfennau rheoleiddio a fydd yn llunio ein camau allweddol cyntaf yn ein rôl fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.

Yn yr ymgynghoriad hwnnw, fe wnaethom nodi bod trosedd creulondeb at anifeiliaid wedi cael ei ychwanegu’n eithaf hwyr at y Bil Diogelwch Ar-lein, a oedd yn golygu nad oedd modd i ni roi sylw i’r trosedd hwn ym mis Tachwedd.

Mae cynnwys creulondeb at anifeiliaid yn gallu peri risg sylweddol i ddefnyddwyr gwasanaethau ar-lein. Felly, rydym yn ymgynghori ar ddogfennau rheoleiddio, a fydd yn helpu i gofnodi’r niwed mae’r cynnwys hwn yn ei achosi, gyda’r nod o’u cyhoeddi ochr yn ochr â’n Datganiad Niwed Anghyfreithlon ym mis Rhagfyr 2024.

Rydym hefyd yn nodi y gallai llawer o gynnwys ar-lein sy’n ymwneud â chreulondeb at anifeiliaid hefyd fod y tu allan i’r trosedd hwn o dan y Ddeddf ac nad yw’r troseddau blaenoriaeth eraill yn y Ddeddf yn cynnwys yn llawn ddeunydd anweddus sy’n portreadu arteithio pobl.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnig ychwanegu cynnwys anghyfreithlon artaith ddynol a chreulondeb at anifeiliaid at ein codau a’n canllawiau. Os mabwysiadir ein cynigion, yn yr ymgynghoriad hwn a’n Hymgynghoriad mis Tachwedd 2023 ar Niwed Anghyfreithlon, byddai’r canllawiau perthnasol a’r mesurau arfaethedig yn berthnasol i fynd i’r afael â chynnwys ar-lein sy’n ymwneud ag arteithio pobl a chreulondeb at anifeiliaid. Credwn fod hwn yn gam cyntaf pwysig i ddiogelu defnyddwyr yn well rhag y cynnwys hwn.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Noder mai yn Saesneg y mae'r dogfennau o hyn ymlaen.

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Ofcom Online Safety Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig