- Gwyliodd mwy o bobl deledu darlledu yn 2020, y cynnydd cyntaf mewn bron i ddeng mlynedd
- Adlewyrchodd ymddygiad gwylio y cyfyngiadau newidiol a oedd mewn grym yn ystod y pandemig
- Bu ymchwydd mewn gwylio teledu nad yw'n cael ei ddarlledu, gan gynnwys gwasanaethau ffrydio, yn ystod 2020
Gwyliodd pobl yng Nghymru fwy o deledu y llynedd gyda dros ddwywaith yn fwy yn gwylio gwasanaethau ffrydio fel Netflix, Amazon Prime Video a Disney+ ymhen 12 mis.
Bu cynnydd mewn gwylio teledu darlledu arferol hefyd, gan wrthdroi dirywiad sydd wedi para ers bron deng mlynedd, i raddau helaeth o ganlyniad i gyfnodau clo pandemig y Coronafeirws.
Datgelodd adroddiad Cyfryngau'r Genedl: Cymru Ofcom fod pobl yng Nghymru wedi treulio 5 awr 6 munud y dydd ar gyfartaledd o flaen y teledu yn 2020, 40 munud yn fwy nag yn 2019.
Treuliwyd y rhan fwyaf o'r amser hwn o hyd yn gwylio teledu darlledu (3 awr 29 munud), 8 munud yn fwy nag yn 2019.
Fodd bynnag, daeth llawer o'r cynnydd yng nghyfanswm y gwylio o wasanaethau ar y set deledu nad ydynt yn cael eu darlledu, gan gynnwys YouTube, chwarae gemau a gwasanaethau ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime Video, a welodd gynnydd o 50% ers 2019 i 1 awr 26 munud.
Bu ymchwydd mewn gwylio'r gwasanaethau hyn wrth i'r cyfnod clo cyntaf ddechrau ym mis Mawrth 2020 ac er i hyn ostwng wrth i'r cyfyngiadau leihau, gwnaethant godi eto tua diwedd y flwyddyn, gan gyrraedd eu hanterth ym mis Rhagfyr 2020 ar 1 awr 51 munud y dydd – 68% yn uwch na blwyddyn ynghynt.
Mae gan bron i chwech o bob deg cartref yng Nghymru wasanaeth ffrydio y telir amdano
Bu 2020 yn flwyddyn dirnod ar gyfer gwasanaethau fideo-ar-alw trwy danysgrifiad (SVoD). Ledled y DU, roedd mwy na 50% yn fwy o danysgrifiadau i wasanaethau ffrydio, 31 miliwn ohonynt, i fyny o 20 miliwn yn 2019.
Erbyn hyn mae gan dros hanner yr aelwydydd yng Nghymru (59%) wasanaeth tanysgrifio fideo ar-alw (SVoD) gan gwmnïau fel Netflix, Amazon, Disney+ a Now TV.
Netflix yw'r mwyaf o hyd, gyda thanysgrifiad mewn mwy na hanner (53%) o aelwydydd, ac yna Amazon Prime Video (33%) a Disney+ (15%).
Er i wylwyr hŷn yn gyffredinol wylio mwy o deledu darlledu yn ystod y flwyddyn, gwyliodd pobl ifanc lai ohono. I'r gwrthwyneb, cynyddodd gwylio teledu nad yw'n cael ei ddarlledu, gan gynnwys gwasanaethau ffrydio, ym mhob grŵp oedran.
Ymchwydd mewn gwylio newyddion yn ystod y pandemig
Mewn mannau eraill, mae'r adroddiad yn dangos bod y pandemig wedi effeithio ar bob agwedd ar ddarlledu yng Nghymru yn 2020.
Cynyddodd gwylio newyddion ledled y DU wrth i'r cyhoedd geisio gwybodaeth am y pandemig esblygol a chyfyngiadau newidiol y llywodraeth. Yng Nghymru, roedd cyfran gyfartalog y gynulleidfa ar gyfer rhaglen noson gynnar BBC One, Wales Today, yn 33.2%, i fyny o 25.5% yn 2019. Roedd cyfran gyfartalog y gynulleidfa a fu'n gwylio rhaglen newyddion Wales yn Six ITV Cymruyn uwch fyth, ar 23.4%, i fyny o 21.7% yn 2019.
Teledu oedd y lle i gael gafael ar newyddion. BBC One ac ITV Cymru Wales oedd y ddwy ffynhonnell newyddion a ddefnyddiwyd fwyaf, o flaen Facebook.
I’m A Celebrity… Get Me Out of Here! oedd y rhaglen a wyliwyd fwyaf yn 2020
I’m A Celebrity… Get Me Out of Here! oedd y rhaglen a wyliwyd fwyaf yn 2020 yng Nghymru. Cafodd pennod agoriadol y sioe, a ddarlledwyd ar ITV Cymru Wales o Gastell Gwrych yn Abergele, gynulleidfa gyfartalog o 1.03 miliwn (cyfran o 56.3% o wylwyr).
Y rhaglen deledu a ddenodd yr ail nifer fwyaf o wylwyr oedd The Prime Ministerial Statement ar 10 Mai, pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU gynllun dros dro ar gyfer llacio'r cyfyngiadau, gyda chynulleidfa gyfartalog o 861,000. Roedd cyhoeddi'r cyfnod clo mewn BBC News Special ychydig wythnosau'n gynharach ar 23 Mawrth hefyd yn y pump uchaf.
Gwariant ar raglennu i Gymru ac o Gymru
Bu gostyngiad 22% mewn gwariant ar gynnwys a ddarlledwyd am y tro cyntaf i wylwyr yng Nghymru yn 2020, gyda gostyngiad mwyaf mewn gwariant, 30%, ar gynnwys nad oedd yn newyddion/materion cyfoes. Mae cynnwys nad yw'n newyddion/materion cyfoes yn gyfrifol am y gyfran fwyaf (50%) o wariant ar gynnwys a ddarlledir am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae radio yn parhau i fod yn boblogaidd yng Nghymru, gyda mwy nag wyth o bob deg o oedolion yn gwrando bob wythnos.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi gweld ymchwydd mawr ym mherchnogaeth ar uchelseinyddion clyfar, erbyn hyn mae un ohonynt gan bron i chwech o bob deg cartref yng Nghymru (57%). Gwrando ar gerddoriaeth drwy wasanaeth ffrydio fel Spotify (70%) a gwrando ar orsaf radio fyw (61%) oedd y rhesymau mwyaf poblogaidd a roddwyd gan ddefnyddwyr yng Nghymru dros ddefnyddio uchelseinyddion clyfar. Mae radios DAB yn ddull pwysig arall i bobl wrando ar y radio – mae gan 40% o aelwydydd yng Nghymru set radio DAB yn eu cartref, o'i gymharu â 39% yn yr Alban a 36% yng Ngogledd Iwerddon
Meddai Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, "Yn ystod yr hyn a fu'n flwyddyn anodd i gynifer o bobl, mae teledu darlledu wedi darparu gwasanaeth amhrisiadwy i gynulleidfaoedd yng Nghymru. O wybodaeth am y pandemig a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i'n cadw ni'n ddiogel, i raglenni adloniant a helpodd i lenwi'r bwlch a grëwyd gan ddiffyg cynifer o weithgareddau wyneb yn wyneb, gwelodd teledu darlledu yng Nghymru gynnydd cyfartalog o 40 munud yr wythnos.
“Ond roedd hefyd yn flwyddyn o dwf sylweddol mewn gwasanaethau fideo-ar-alw trwy danysgrifiad (SVoD) ac erbyn hyn mae gan fwy na hanner yr aelwydydd yng Nghymru (59%) o leiaf un gwasanaeth fideo-ar-alw trwy danysgrifiad gan gwmnïau fel Netflix, Amazon, Disney+ a Now TV. Mae'r newydd-ddyfodiaid hyn i'r sector yn creu arloesedd a ffynonellau cyllid newydd ar gyfer cynnwys creadigol, ond maent hefyd yn creu heriau i gyfryngau traddodiadol Cymru.”