Hygyrchedd (gan gynnwys isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain)

Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2024

Cysylltwch â'r BBC yn uniongyrchol i gwynio am hygyrchedd (gan gynnwys isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain) ar un o'i sianeli. Gall derbyn adborth a chwynion gan gynulleidfaoedd helpu darlledwyr i wella ansawdd eu gwasanaethau mynediad.

Os ydych chi wedi cwyno i'r BBC ac nid ydych yn fodlon ar y penderfyniad terfynol a gawsoch, cwblhewch ein ffurflen cwyno am y BBC. Gallwch hefyd yrru e-bost atom yn accessibilitycomplaints@ofcom.org.uk neu gysylltu dros y ffôn gan gynnwys cyfnewid fideo, neu drwy'r post.

Rydym yn croesawu cwynion i'n cyfeiriad e-bost mewn fformatau heblaw print, er enghraifft recordiad sain neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig. I ymateb mewn BSL:

  • Anfonwch recordiad atom ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb. Ni ddylai hyn fod yn hwy na 5 munud. Fformatau ffeil addas yw DVD, ffeiliau wmv neu QuickTime. Neu
  • Uwchlwythwch fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb yn uniongyrchol i YouTube (neu wefan letya arall) ac anfonwch y linc atom.

Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm digidol.

Rhoi barn am y dudalen hon

Gallwch gysylltu naill ai â’r darlledwr neu ag Ofcom i gwyno am hygyrchedd (gan gynnwys isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain) ar un o'i sianeli. Gall derbyn adborth a chwynion gan gynulleidfaoedd helpu darlledwyr i wella ansawdd eu gwasanaethau mynediad.

Os byddai'n well gennych gwyno'n uniongyrchol i Ofcom, llenwch ein ffurflen cwyno am deledu a radio. Gallwch hefyd yrru e-bost atom yn accessibilitycomplaints@ofcom.org.uk neu gysylltu dros y ffôn gan gynnwys cyfnewid fideo, neu drwy'r post.

Rydym yn croesawu cwynion i'n cyfeiriad e-bost mewn fformatau heblaw print, er enghraifft recordiad sain neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig. I ymateb mewn BSL:

  • Anfonwch recordiad atom ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb. Ni ddylai hyn fod yn hwy na 5 munud. Fformatau ffeil addas yw DVD, ffeiliau wmv neu QuickTime. Neu
  • Uwchlwythwch fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb yn uniongyrchol i YouTube (neu wefan letya arall) ac anfonwch y linc atom.

Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm digidol.

Rhoi barn am y dudalen hon

Rydym yn annog darparwyr gwasanaethau fideo ar-alw i ddatblygu cynlluniau gweithredu hygyrchedd gyda golwg ar wneud eu gwasanaethau'n gynyddol hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau fideo ar-alw roi copi o unrhyw gyfryw gynllun i ni.

Nid yw'r rheolau sy'n mynnu bod darlledwyr yn darparu lefelau penodol o isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain (neu 'wasanaethau mynediad') yn ymestyn ar hyn o bryd i wasanaethau fideo ar-alw. Rydym yn eich annog i roi gwybod i'ch darparwr bod galw yn bodoli am y gwasanaethau hyn.

Os byddai'n well gennych gwyno'n uniongyrchol i Ofcom, llenwch ein ffurflen cwyno am y BBC ar gyfer BBC iPlayer a'n ffurflen cwyno am fideo ar-alw ar gyfer gwasanaethau fideo ar-alw eraill.

Gallwch hefyd yrru e-bost atom yn accessibilitycomplaints@ofcom.org.uk neu gysylltu dros y ffôn gan gynnwys cyfnewid fideo, neu drwy'r post.

Rydym yn croesawu cwynion i'n cyfeiriad e-bost mewn fformatau heblaw print, er enghraifft recordiad sain neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig. I ymateb mewn BSL:

  • Anfonwch recordiad atom ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb. Ni ddylai hyn fod yn hwy na 5 munud. Fformatau ffeil addas yw DVD, ffeiliau wmv neu QuickTime. Neu
  • Uwchlwythwch fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb yn uniongyrchol i YouTube (neu wefan letya arall) ac anfonwch y linc atom.

Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm digidol.

Rhoi barn am y dudalen hon

Rydyn ni’n annog darparwyr gwasanaethau fideo ar alwad i wneud eu gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau.

Ar hyn o bryd nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod darlledwyr yn darparu symiau penodol o wasanaethau mynediad yn cynnwys gwasanaethau fideo ar alwad ac rydyn ni’n annog defnyddwyr i gysylltu â'r darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar alwad perthnasol i roi gwybod iddynt bod galw am y gwasanaethau hyn.

Mae rhestr o’r darparwyr gwasanaethau rhaglenni fideo ar alwad rydyn ni’n eu rheoleiddio ar gael ar ein gwefan. Nid yw darparwyr gwasanaethau radio ar alwad yn cael eu rheoleiddio.

Rhoi barn am y dudalen hon

Yn ôl i'r brig