Cyhoeddwyd:
29 Mehefin 2020
Diweddarwyd diwethaf:
16 Mawrth 2023
Nid sensor yw Ofcom, ac nid oes gennym bwerau i gymeradwyo rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu ar wasanaethau teledu neu radio, neu cyn iddynt gael eu dangos ar wasanaethau fideo ar-alwad.
Serch hynny, rhaid i ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau ar-alwad wneud yn siŵr nad yw eu rhaglenni yn torri ein rheolau. Os ydych chi’n poeni am raglen sydd heb gael ei dangos ar deledu, radio neu wasanaeth ar-alw eto, dylech gysylltu â’r darlledwr neu’r darparwr gwasanaeth perthnasol.
Dyma restr o’n darlledwyr teledu trwyddedig a rhestr o ddarlledwyr radio, yn ogystal â rhestr o ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alw rydyn ni'n rheoleiddio. Nid yw darparwyr gwasanaethau radio ar alw yn cael eu rheoleiddio.