Gwmnïau danfon parseli

Cyhoeddwyd: 30 Mawrth 2023

Er ein bod ni’n rheoleiddio’r diwydiant post, nid ydym yn gallu ymchwilio i gwynion unigol am weithredwyr post.

Os wnaethoch chi brynu rhywbeth gan fusnes i gael ei ddanfon, dan gyfraith defnyddwyr, cyfrifoldeb yr adwerthwr yw gwneud yn siŵr bod yr eitem yn cael ei danfon atoch chi. Os na fydd nwyddau’n cael eu danfon i chi neu os bydd y nwyddau a ddanfonwyd wedi cael eu difrodi, yr adwerthwr sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am ddatrys y problemau hyn ac felly dylech gysylltu â nhw.

Fodd bynnag, os oes gennych chi gontract gyda’r cwmni parseli neu os yw’r broblem yn ymwneud â’r danfon ei hun (er enghraifft, ymddygiad y gyrrwr danfon), dylech gwyno wrth y cwmni parseli.

Mae rheolau Ofcom yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau danfon parseli fel Amazon Logistics, DPD, DHL, Evri, Parcelforce, y Post Brenhinol ac Yodel, fod â threfn gwyno y gallwch ei dilyn. Os oes gennych gŵyn am un o’r cwmnïau hyn, cysylltwch â’u tîm gwasanaethau cwsmeriaid.

O 1 Ebrill 2023 ymlaen, daw canllawiau cwynion Ofcom i rym. Mae hyn yn golygu y dylid dweud wrth gwsmeriaid sy’n cwyno wrth gwmni parseli: pwy i gysylltu â nhw, pa sianeli y gallant eu defnyddio i wneud cwyn; beth fydd y broses gwyno, a faint o amser y dylai ei gymryd i ddatrys y gŵyn; ac y dylai staff sydd wedi cael hyfforddiant priodol ddelio â’r gŵyn.

Os ydych yn dal yn anhapus gydag ymateb y cwmni i'ch cwyn, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Os oes gennych broblem gyda’ch gwasanaethau post, gallwch gysylltu â Cyngor ar Bopeth i gael cyngor cyfrinachol, annibynnol, diduedd yn rhad ac am ddim. Os ydych chi yng Nghymru neu yn Lloegr, gallwch ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu ewch i’w gwefan. Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi gwybodaeth i ni am y math o broblemau defnyddwyr y mae pobl yn eu profi gyda gwasanaethau danfon parseli, ac rydym yn eu defnyddio i’n helpu i fonitro’r diwydiant.

Gall pobl yn yr Alban gysylltu ag Advice Direct Scotland ar 0808 196 8660 neu fynd i’w gwefan.

Gall Pobl yng Ngogledd Iwerddon gysylltu â’r Cyngor Defnyddwyr ar 0800 121 6022 neu fynd i’w

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig