Ym mis Medi 2022 gwnaethom gyhoeddi ein dull o ymdrin รข marchnadoedd digidol yn y sector cyfathrebu, lle gwnaethom gyhoeddi rhaglen waith i archwilio sut mae marchnadoedd digidol yn gweithio i ddefnyddwyr a busnesau'r DU.
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau cydgyfeiriol y DU, rydym o'r farn ei bod yn bwysig edrych ar lefel uchel ar gystadleuaeth a materion defnyddwyr yn y sector gwasanaethau cyfathrebu ar-lein personol (OCS) ac effaith hyn ar farchnadoedd galw a negeseua traddodiadol.
Nod y gwaith hwn yw cynyddu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r gwasanaethau hyn, a darparu syniadaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, trwy lens ein dyletswyddau cystadleuaeth a diogelu defnyddwyr presennol mewn marchnadoedd telathrebu. Nodwn felly fod y gwaith hwn yn benodol o ran ei ffocws ac nid yw'n benodol yn edrych ar faterion sy'n cael sylw o dan y drefn diogelwch ar-lein.
Gwasanaethau Cyfathrebu Personol Ar-lein - Trosolwg (PDF, 113.1 KB)
YouGov Ofcom online communication services management summary (2023) (PDF, 672.7 KB)
YouGov Ofcom online communication services data tables (2023) (XLSX, 651.9 KB)