Mae Ofcom wedi cyhoeddi ymchwil newydd am y rhyngrwyd ac anfantais ddigidol. Mae’r adroddiadau hyn yn archwilio proffil pobl nad oes ganddynt neu nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref a phrofiadau byw pobl sy’n gallu wynebu heriau unigryw wrth ymgysylltu â chyfathrebiadau a gwasanaethau digidol.
Mae Ofcom wedi cyhoeddi dau ddarn o ymchwil sy'n anelu at wella ein dealltwriaeth o anghenion bobl y gellid eu hystyried eu bod dan anfantais ddigidol neu wedi ei heithrio’n ddigidol.
- Fe wnaethom gomisiynu Blue Marble i gynnal ymchwil sy'n archwilio anfantais ddigidol, term eang a ddefnyddir i ddisgrifio pobl sy'n cael profiadau negyddol wrth ymgysylltu â gwasanaethau chyfathrebu digidol. Mae'r ymchwil yn cynnwys cyfweliadau ansoddol manwl gyda phobl o grwpiau poblogaeth sydd, yn ôl tystiolaeth arall, yn gallu wynebu risgiau unigryw gyda mynediad a defnyddio’r rhyngrwyd, gan gynnwys: pobl anabl, pobl mewn tai anniogel, pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol a phobl sydd â lefel isel o hyfedredd yn y Saesneg.
- Rydym wedi cynnal dadansoddiad ystadegol ychwanegol o'n Traciwr Technoleg i gael cipolwg dwfn demograffig i ddefnydd rhyngrwyd, gan archwilio cyfansoddiad demograffig y rhai nad oes ganddynt, neu nad ydynt yn defnyddio, cysylltedd band eang yn y cartref. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Ofcom i archwilio’r rhwystrau i ddefnyddio band eang a fynegwyd yn ein hadroddiad i’r Llywodraeth ar Ddyfodol Dosbarthu Teledu. Mae ein dadansoddiad dwfn yn canolbwyntio ar dri grŵp: 1) rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr, 2) defnyddwyr data symudol yn unig, 3) defnyddwyr allanol yn unig. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad byr gyda phrif ganfyddiadau’r dadansoddiad, ynghyd ag adroddiad technegol.
Mae ein dadansoddiad yn taflu goleuni ar sut mae natur y ‘rhaniad digidol’ yn y DU wedi newid ers i bandemig Covid-19 gweld miliynau o bobl yn dechrau defnyddio’r rhyngrwyd am y tro cyntaf. Mae’r adroddiadau yn tynnu sylw at ba rwystrau sy'n wynebu oedolion y DU sydd ar hyn o bryd ddim yn elwa'n llawn o’r argaeledd a’r cyfleoedd sy'n cael eu darparu gan y rhyngrwyd cyflym iawn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ymateb i ganfyddiadau'r ymchwil anfantais ddigidol, gan nodi’r camau nesaf i ni fel sefydliad.