Adroddiad: Dyfodol Technoleg – sbotolau ar y technolegau a fydd yn siapio cyfathrebiadau yn y dyfodol

Cyhoeddwyd: 23 Gorffennaf 2020
Ymgynghori yn cau: 3 Medi 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Adroddiad wedi'i gyhoeddi 14 Ionawr 2021

Mae pobl ar draws y byd yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebu at ystod eang o ddibenion, ac mae'r dechnoleg sy'n gyrru'r gwasanaethau hyn yn esblygu'n gyson.

Fel rheoleiddiwr cyfathrebu'r DU, mae'n bwysig bod Ofcom yn ymwybodol o'r mathau newydd o dechnoleg sy'n debygol o gael eu defnyddio yn y dyfodol agos, a'i fod ystyried yr effeithiau y gallai'r datblygiadau hyn eu cael ar y gwasanaethau cyfathrebiadau a ddefnyddiwn bob dydd. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod pobl a busnesau'n cael y gorau o'r gwasanaethau hyn, yn ogystal â'n helpu i'w diogelu yn erbyn unrhyw risgiau a allai godi.

Mae'r adroddiad hwn yn taflu goleuni ar y technolegau arloesol sy'n datblygu a allai siapio'r diwydiant cyfathrebu yn y dyfodol. Rydym wedi dewis sampl o dechnolegau yn seiliedig ar yr ymatebion a gawsom i'n galwad am fewnbynnau a'r trafodaethau a gynhaliom ag arweinwyr meddwl yn y byd academaidd a diwydiant. Byddwn yn parhau i nodi technolegau pwysig eraill wrth iddynt ddod i'r amlwg ac mewn sectorau y tu hwnt i'r rhai a ystyrir yn yr adroddiad hwn.

Mae rhai arbenigwyr wedi cyfrannu fideos at ein hadroddiad. Mae pob fideo'n esbonio sut y gallai technoleg ddatblygol siapio cyfathrebiadau yn y dyfodol.

Contact information

Yn ôl i'r brig