- Disgwylir i hyb newydd y rheoleiddiwr cyfathrebiadau greu hyd at 150 o swyddi digidol, seiberddiogelwch a thechnoleg yng ngogledd-orllewin Lloegr
Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi cynlluniau i agor hyb digidol a thechnoleg pwysig newydd ym Manceinion, a fydd yn creu hyd at 150 o swyddi newydd erbyn 2025.
Mae Ofcom yn rheoleiddio cyfathrebiadau yn y DU - o ddarlledu i delathrebu a'r gwasanaeth post. Yn awr, mae'n paratoi at ddyletswyddau newydd i helpu gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel1 - yn ychwanegol at rôl newydd i sicrhau bod gan gwmnïau rhwydwaith seiberddiogelwch digonol.
Y drefn reoleiddio ar-lein newydd fydd y cyntaf yn y byd. I helpu paratoi, bydd Ofcom yn chwilio am recriwtiaid newydd i ddarparu arbenigedd digidol a thechnegol ar gyfer yr hyb newydd ym Manceinion - gan alw ar enw da y ddinas fel canolfan technoleg ac arloesedd lwyddiannus. Disgwylir i'r hyb newydd fod yn weithredol erbyn yr haf.
Mae'r ddinas yn cynnig gweithlu hynod fedrus, ochr yn ochr â chryfderau ymchwil prifysgolion o safon fyd-eang a'u cronfa ddofn o raddedigion dawnus. Mae gan rai o sefydliadau partner Ofcom - gan gynnwys GCHQ a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol - ganolfannau ym Manceinion yn barod.
Bydd Ofcom yn ehangu hefyd yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin, gan gynnig amrywiaeth o rolau ar draws ein cylch gwaith.
Meddai'r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Rydym wrth ein boddau â bod yn paratoi at hyb digidol a thechnoleg newydd ym Manceinion. Rydym eisiau galw ar yr amrywiaeth enfawr o ddoniau technoleg, digidol a data yn y ddinas, wrth i ni baratoi at waith arloesol newydd o gwmpas diogelwch a chadernid ar-lein."
Meddai Maer Manceinion Fwyaf Andy Burnham: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ofcom i Fanceinion Fwyaf. Mae penderfyniad Ofcom i leoli ei hyb digidol ym Manceinion yn dystiolaeth bellach o amlygrwydd cynyddol ein dinas-ranbarth fel canolbwynt sgiliau a buddsoddi mewn uwch dechnoleg."
Meddai Syr Richard Leese, Arweinydd Cyngor Dinas Manceinion: “Mae Manceinion bob amser wedi bod wrth wraidd arloesedd a diwydiant y DU. Rwy'n falch o weld sefydliadau fel Ofcom yn cydnabod ansawdd y doniau technoleg sydd gennym yma ac edrychaf ymlaen at gydweithio â nhw.”
Nodiadau i olygyddion
- Tua diwedd 2020, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i benodi Ofcom yn rheoleiddiwr niwed ar-lein yn y DU.
- Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd y Bil Diogelwch Ar-lein, a fydd yn pennu'r fframwaith rheoleiddio niwed ar-lein, yn barod yn 2021. Wedyn bydd angen iddo basio trwy Senedd y DU er mwyn mynd yn gyfraith mewn cam diweddarach.