Mae Ofcom wedi penodi'r Athro Ruth McElroy i'w Bwrdd Cynnwys.
Pwyllgor o Brif Fwrdd Ofcom yw Bwrdd Cynnwys Ofcom. Mae wedi dirprwyo cyfrifoldeb ymgynghorol ar ystod eang o faterion cynnwys, gan gynnwys rheoleiddio ansawdd a safonau teledu, radio a fideo-ar-alw.
Mae'r Bwrdd Cynnwys yn darparu profiad golygyddol a chynnwys uwch i Ofcom. Mae'n cynnwys arbenigwyr o amrywiaeth o gefndiroedd masnachol, cyfryngau a thelathrebu, gan gynnwys papurau newydd, Channel 4, Sky, llwyfannau technoleg a’r byd darlledu.
Bydd Ruth yn cynrychioli buddiannau a barn pobl sy'n byw yng Nghymru o fewn Ofcom.
Bydd hi'n ymuno รข Bwrdd Cynnwys Ofcom am gyfnod o dair blynedd.
Yr Athro Ruth McElroy
Ruth yw Athro'r Diwydiannau Creadigol a Phennaeth Ymchwil y Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu ac ymchwilio i gyfryngau yn Addysg Uwch y DU, gan ganolbwyntio ar y sector sgrin, polisi'r cyfryngau a hunaniaethau diwylliannol.
Mae hi'n Gyd-Gyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, un o naw Clwstwr Ymchwil a Datblygu yn y DU a ariennir drwy Gyngor y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hi hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Cyfryngau a Diwylliant Gwledydd Bach Prifysgol De Cymru. O fis Mai 2022, bydd Ruth yn Bennaeth Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor
Mae Ruth wedi gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Cynghori Ofcom dros Gymru ers 2017.
Nodiadau i olygyddion
- Bydd Ruth yn parhau i fynychu ac arsylwi cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori Cymru fel cynrychiolydd y Bwrdd Cynnwys, ond ni fydd hi ar y pwyllgorau mwyach.