An external shot of Channel 4 headquarters

Penodi aelodau bwrdd newydd ar gyfer Channel 4

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi penodiad pedwar cyfarwyddwr anweithredol newydd i Fwrdd Channel 4.

Bydd yr aelodau newydd oll yn ymuno â'r Bwrdd am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau cyn gynted ag sy'n bosibl.

Dawn Airey

Mae gyrfa Dawn yn cynnwys rolau fel Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Channel 5, Rheolwr Gyfarwyddwr Sianeli a Gwasanaethau ar gyfer BSkyB, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynnwys Byd-eang yn ITV ac Uwch Is-lywydd Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn Yahoo. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd y Theatr Ieuenctid Genedlaethol yn Lloegr, Uwch Gynghrair Menywod Barclays a phencampwriaeth Merched yr FA.

Tess Alps

Dechreuodd Tess ei gyrfa mewn hysbysebu cyn ymuno â PHD, asiantaeth prynu cyfryngau byd-eang, lle bu’n Gadeirydd y DU. Treuliodd dros 14 mlynedd yn Thinkbox, y corff marchnata ar gyfer teledu masnachol yn y DU, fel ei Brif Swyddog Gweithredol ac yn y pen draw ei Gadeirydd. Ar hyn o bryd mae Tess yn aelod o gyngor yr Awdurdod Safonau Hysbysebu.

David Kogan OBE

Dechreuodd gyrfa David yn y maes papurau newydd. Yn dilyn cyfnod fel cynhyrchydd yn y BBC, treuliodd naw mlynedd yn Reuters Television, yn ddiweddarach fel Rheolwr Gyfarwyddwr Byd-eang. Aeth ymlaen i fod yn Brif Swyddog Gweithredol y negodydd strategaeth a hawliau masnachol Reel Enterprises, sy'n arbenigo mewn cynghori cwmnïau teledu, papurau newydd a chwaraeon.

Sarah Sands

Mae gyrfa Sarah yn rhychwantu 35 mlynedd mewn newyddion, materion cyfoes ac fel awdur. Mae hi wedi dal rhai o'r swyddi golygyddol mwyaf blaenllaw yn y diwydiant yn y Daily Telegraph a'r Sunday Telegraph, Daily Mail, Readers' Digest, London Evening Standard a rhaglen Today y BBC.

Cymeradwywyd y penodiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nadine Dorries AS.

Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Darlledu 1990 i Ofcom benodi aelodau anweithredol i Fwrdd Channel 4, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol.

Nodiadau i olygyddion

  1. Arweiniodd cwmni Chwilio Gweithredol Byd-eang, Saxton Bampfylde, yr ymarfer chwilio. Cadeirydd dros dro Ofcom, Maggie Carver oedd yn cadeirio'r panel recriwtio ac ymunodd Cadeirydd Channel 4, Charles Gurassa, a dau aelod annibynnol o'r panel, Libby Watkins a Cindy Butts.
Yn ôl i'r brig