Bwrdd Cynnwys Ofcom

Cyhoeddwyd: 30 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 25 Mehefin 2024

Mae’r Bwrdd Cynnwys yn un o bwyllgorau’r prif Fwrdd ac mae’n gosod ac yn gorfodi ansawdd a safonau ar gyfer teledu a radio. Mae ganddo aelodau sy’n cynrychioli pob un o wledydd y DU, ac mae’n cynnwys aelodau sydd â phrofiad helaeth o ddarlledu. Mae’n gyfrifol am ddeall, dadansoddi a hyrwyddo lleisiau a buddiannau’r gwylwyr, y gwrandawyr a dinasyddion.

Mae’r Bwrdd Cynnwys yn un o bwyllgorau prif Fwrdd Ofcom, gyda chyfrifoldeb cynghori a dirprwyedig dros amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â chynnwys, gan ddelio’n bennaf â darlledu. Cafodd ei sefydlu o dan statud, yn benodol Adran 12(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Bydd Bwrdd Ofcom yn gofyn am gyngor ac argymhellion gan y Bwrdd Cynnwys ar unrhyw agweddau ar benderfyniadau sy’n ymwneud â chynnwys y mae wedi’u cadw iddo ef ei hun. Caiff yr holl benderfyniadau eraill sy’n ymwneud â chynnwys eu dirprwyo i’r Bwrdd Cynnwys.

Y Bwrdd Cynnwys yw prif fforwm Ofcom ar gyfer rheoleiddio ansawdd a safonau teledu a radio. Mae’n gyfrifol am ddeall, dadansoddi a hyrwyddo lleisiau a buddiannau’r gwylwyr, y gwrandawyr a dinasyddion. Bydd yn trin ac yn trafod materion lle bydd buddiannau dinasyddion yn mynd y tu hwnt i fuddiannau defnyddwyr, gyda ffocws ar yr agweddau hynny o’r budd cyhoeddus na fydd cystadleuaeth a grymoedd y farchnad yn eu cyrraedd.

Bydd aelodau’r Bwrdd Cynnwys yn ystyried materion cynnwys mewn tri chategori:

Haen 1: yn ymwneud â rheoleiddio cynnwys negyddol. Mae’n edrych ar faterion sy’n ymwneud yn bennaf â niwed a thramgwydd, cywirdeb a didueddrwydd, tegwch a phreifatrwydd.

Haen 2:  yn ymwneud â materion meintiol fel cwotâu ar gyfer cynyrchiadau teledu annibynnol, cynyrchiadau rhanbarthol a chynyrchiadau gwreiddiol o’r DU/UE.

Haen 3: yn ymdrin â'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus; ac yn y cyd-destun hwn, mae gan Ofcom gyfrifoldeb penodol am ITV, Channel 4 a Five.

Bydd yr aelodau hefyd yn ystyried rheoleiddio fformat ar gyfer radio ac yn cynghori Bwrdd Ofcom ar faterion eraill yn ôl yr angen.

Aelodau rhan amser yw mwyafrif aelodau’r Bwrdd Cynnwys ac maent yn dod o gefndiroedd gwahanol ledled y DU. Mae pedwar yn cael eu penodi i gynrychioli barn a buddiannau pobl sy’n byw yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

24 Ionawr 2023

4 Ebrill 2023

2 Mai 2023

4 Gorffennaf 2023

3 Hydref 2023

21 Tachwedd 2023

Maggie Carver (Cadeirydd)

Mae gan Maggie brofiad helaeth fel cyfarwyddwr anweithredol ar fyrddau 19 o gwmnïau cyhoeddus, preifat a dim-er-elw. Mae'r rhain yn cynnwys cadeirio'r darparwr newyddion a rhaglenni ITN, y gweithredwr aml-blecs SDN, Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain a’r RCA, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr ar fyrddau Channel 5 Television, RDF Media plc, Satellite Information Services, darlledwr y lluoedd arfog BFBS, British Waterways ac Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain.

Gyrfa weithredol Maggie oedd bancio buddsoddiadau, cynhyrchu teledu, darlledu a manwerthu.

Ymunodd Maggie â'r Bwrdd ar 30 Medi 2018 a daeth yn Gadeirydd y Bwrdd Cynnwys ar 18 Mai 2022.

Bob Downes

Cafodd Bob Downes ei benodi i Fwrdd Ofcom ar 1 Chwefror 2018.  Mae e'n aelod o'r Bwrdd Cynnwys a'r Pwyllgor Pobl. Bob yw cadeirydd presennol Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban. Mae hefyd yn cadeirio Corff Goruchwylio Annibynnol y Comisiwn ar gyfer Rheoleiddio Cyfathrebiadau, a fydd yn goruchwylio'r gwaith o weithredu a rheoleiddio gwell Model Llywodraeth Rheoleiddio yn Iwerddon gan Eir. Mae Bob hefyd yn cadeirio Cryptic, cwmni cynhyrchu ym maes y celfyddydau, ac mae’n cynghori nifer o fusnesau technoleg bach, gan gynnwys Kube Networks.

Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Ionawr 2026.

Monisha Shah

Mae gan Monisha Shah brofiad ar lefel uwch o ddarlledu a chyfryngau digidol ac mae’n gwasanaethu ar amrywiaeth o Fyrddau cyhoeddus a masnachol; Uwch Aelod Annibynnol (Cadeirydd) o Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau (UKRI) a Chadeirydd Panel Penodiadau Cwnsler y Brenin.

Mae Monisha yn gwasanaethu ar sawl elusen. Mae hi’n gadeirydd Wikimedia UK ac Ysgol Caterham, yn ymddiriedolwr ArtFund ac fe’i penodwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elisabeth i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Royal Collection Trust ar 1 Ebrill 2022.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Coleg Theatr a Pherfformiad Rose Bruford, a byrddau Tate, yr Oriel Genedlaethol a Donmar Warehouse. Roedd yn aelod sylfaenol o Fwrdd Swyddfa’r Myfyrwyr, yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Next Mediaworks Plc ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Imagen Limited. Bu Monisha yn gweithio fel Cyfarwyddwr Marchnadoedd Newydd BBC Worldwide ac yn cynrychioli BBC Worldwide ar nifer o fyrddau mewnol ac allanol. Yn 2015, fe’i penodwyd yn Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus gan y Prif Weinidog.

Ymunodd Monisha â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Hydref 2017. Mae ei phenodiad yn parhau tan 30 Medi 2023.

Jonathan Baker

Mae gan Jonathan dros 40 mlynedd o brofiad ym maes newyddiaduraeth, ac ef ar hyn o bryd yw Athro Newyddiaduraeth sylfaen Prifysgol Essex.

Dechreuodd ei yrfa fel gohebydd gyda’r Liverpool Daily Post a’r Liverpool Echo, cyn ymuno â’r BBC ym 1978, lle bu ganddo sawl rôl ym maes newyddion ar y teledu ac ar y radio tan 2014. Roedd yn Olygydd bwletin NewyddionNaw o'r Gloch, pan symudodd i’w slot presennol am 10 o'r gloch. Enillodd y rhaglen wobrau BAFTA a’r Gymdeithas Teledu Frenhinol yn ystod ei gyfnod fel golygydd.

Treuliodd Jonathan hefyd bum mlynedd fel Golygydd BBC World News, ac yna daeth yn Ddirprwy Bennaeth yn yr adran Cywain Newyddion ehangach. Fe’i penodwyd hefyd yn Bennaeth y Coleg Newyddiaduraeth, yn gyfrifol am hyfforddi 8,000 o newyddiadurwyr y BBC.

Rhwng 2014 a 2018 bu'n Athro Newyddiaduriaeth sefydlu ym Mhrifysgol Essex. Ymunodd Jonathan â'r Bwrdd Cynnwys ar 1 Hydref 2017. Mae ei benodiad yn parhau tan 30 Medi 2023.

Maggie Cunningham

Maggie Cunningham yw'r aelod ar y Bwrdd cynnwys sy'n cynrychioli buddiannau a barn pobl sy'n byw yn yr Alban. Mae Maggie wedi gweithio yn sector y cyfryngau ers bron i 40 mlynedd, 20 ohonynt (1989 i 2009) ar lefel olygyddol uwch yn y BBC. Roedd ei swyddi yn cynnwys Pennaeth Radio, Scotland (2000 i 2004) a Chyd-Bennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau, yr Alban (2005 i 2009). Ers 2009, mae wedi gweithio fel arweinydd a hyfforddwr gweithredol. Cadeiriodd Fwrdd MG Alba am chwe blynedd o Orffennaf 2012. Mae hi'n ymwneud â'r elusen Sistema Scotland, ar ôl bod yn aelod sefydlol o'r Bwrdd tan fis Rhagfyr 2019. Mae hi'n aelod annibynnol o Fforwm Gwyliau Caeredin

Ymunodd Maggie â'r Bwrdd Cynnwys ar 1 Hydref 2018. Mae ei phenodiad yn parhau tan 30 Medi 2021.

Yr Athro Ruth McElroy

Mae Ruth yn Athro Diwydiannau Creadigol ac yn Bennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu ac ymchwilio i’r cyfryngau yn Addysg Uwch y DU, gan ganolbwyntio ar y sector sgrin, polisi cyfryngau a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae hi’n ymgynghorydd i Media Cymru (consortiwm arloesi Strength in Places sy’n cael ei ariannu drwy UKRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, un o naw Clwstwr Creadigol Ymchwil a Datblygu’r DU. Ruth yw Cadeirydd Bwrdd Ffilm Cymru Wales, yr asiantaeth datblygu ffilm ar gyfer ffilm yng Nghymru. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd Gogledd Creadigol/Creative North sy’n cefnogi rhwydweithio ar draws diwydiannau creadigol gogledd Cymru.

Ymunodd Rachel â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Mawrth 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 1 Mawrth 2025.

Simon Bucks

Mae Simon Bucks wedi cael gyrfa hir ar lefel uwch ym maes darlledu a’r cyfryngau digidol. Mae ganddo brofiad fel newyddiadurwr ac fel swyddog gweithredol golygyddol, ac mae wedi gweithio i Sky News, London News Network ac ITN.

Mae Simon yn Gymrawd gyda Chymdeithas y Golygyddion ac yn flaenorol bu’n gyfarwyddwr ac yn Llywydd ar y Gymdeithas. Ef yw Ysgrifennydd Anrhydeddus y Gymdeithas Deledu Frenhinol ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr gyda’r Gymdeithas. Yn fwyaf diweddar, Simon oedd Prif Weithredwr BFBS, y sefydliad nid-er-elw a sefydlwyd i ddiddanu a darparu gwybodaeth i Luoedd Arfog Prydain o amgylch y byd.

Ymunodd Simon â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Medi 2023. Mae ei benodiad yn rhedeg tan 31 Awst 2026.

Stephen Nuttall

Mae gan Stephen Nuttall dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio fel uwch swyddog gweithredol ac ymgynghorydd yn y diwydiannau chwaraeon, y cyfryngau a digidol. Mae swyddi blaenorol Stephen yn cynnwys uwch gyfarwyddwr yn EMEA YouTube a Chyfarwyddwr masnachol y Grŵp yn Sky.

Mae Stephen hefyd wedi bod yn aelod o Fwrdd Team Sky (tîm beicio proffesiynol Sky), Freeview, a'r sianel ddaearyddol genedlaethol.

Mae gan Stephen MBA o Ysgol Rheolaeth Bocconi SDA ym Milan, gradd mewn ffiseg gymhwysol o Brifysgol Nottingham ac ef yw'r Is-Lywydd ar gyfer ymgysylltu yng Nghymdeithas Wyddoniaeth Prydain.

Ymunodd Stephen â'r Bwrdd Cynnwys ar 10 Rhagfyr 2018. Mae ei benodiad yn parhau tan 09 Rhagfyr 2021.

Alison Marsden

Ymunodd Alison ag Ofcom yn 2007. Ar hyn o bryd hi yw'r Cyfarwyddwr Safonau Cynnwys, Trwyddedu a Gorfodi. Mae'n arwain y tîm sy’n gyfrifol am osod a gorfodi safonau cynnwys ar gyfer gwasanaethau teledu, radio ac ar-alw ac am raglen trwyddedu darlledu Ofcom.

Dechreuodd Alison ei gyfrfa yn Ofcom fel arbenigwr safonau darlledu ac yn 2016 cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr y tîm Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd, sy'n gyfrifol am osod a gorfodi Cod Darlledu Ofcom. Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Alison yn gweithio mewn cynyrchiadau teledu yn y BBC  rhwng 1997 a 2003, gan gynhyrchu ac yn cyfarwyddo rhaglenni ffeithiol ac arbenigol, ac wedyn ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol amrywiol.

Peter Horrocks

Mae Peter yn arweinydd profiadol ym meysydd y cyfryngau, addysg uwch a datblygu economaidd. Yn ystod ei amser yn y BBC, bu'n Olygydd Panorama, Newsnight ac Etholiadau rhwng 1992 a 2001. Roedd ei rolau arweinyddiaeth yn cynnwys Pennaeth Materion Cyfoes, Pennaeth Newyddion Teledu a Phennaeth yr Ystafell Newyddion Amlgyfrwng. Bu'n Gyfarwyddwr BBC World Service rhwng 2009 a 2014.

Roedd Peter yn aelod o Fwrdd Masnachol y BBC a Grŵp Cyfeiriad y BBC rhwng 2011 a 2014. Fe enillodd gwobrau BAFTA fel golygydd Newsnight ac fel cynhyrchydd gweithredol y cyfres o raglenni dogfen The Power of Nightmares. Roedd Peter yn Is-ganghellor y Brifysgol Agored rhwng 2015 a 2018 ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Partneriaeth Menter Leol De-ddwyrain Canolbarth Lloegr. Yn 2015 fe dderbyniodd CBE am Wasanaethau i Ddarlledu. Mae e'n Gadeirydd Learna Ltd, busnes addysg feddygol.

Ymunodd Peter â'r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2023.

Dekan Apajee

Graddiodd Dekan gyda gradd mewn Peirianneg Awyrofod, ond penderfynodd ddilyn ei frwdfrydedd dros newyddiaduraeth ac ymunodd â’r BBC yn 2002. Dechreuodd ei yrfa yn rôl ymchwilydd, gan ddatblygu i fod yn newyddiadurwr darlledu a chynhyrchydd yn gweithio i sawl adran, gan gynnwys BBC London, BBC News Channel a BBC Comedy. Cynhyrchodd amrywiaeth o gynnwys digidol unigryw yn canolbwyntio ar y gymuned cyn Gemau 2012 Llundain cyn gadael y gorfforaeth yn 2012 a dechrau ei gwmni hyfforddi a chynhyrchu ei hun.

Drwy gyfuno ei frwdfrydedd dros ymgysylltu â’r gymuned a’r celfyddydau, sefydlodd Dekan Cwmni Buddiannau Cymunedol Allsortz Open Mic (2011-2017); ei nod oedd rhoi cyfle i artistiaid newydd berfformio mewn lleoliadau proffesiynol ar yr un pryd â datblygu eu hyder a’u profiad. Roedd Dekan yn aelod o fwrdd Youth Media Agency (2012-2015), gan ddarparu cymorth ac arweiniad i blatfformau cyfryngau bach newydd.  Roedd hefyd yn aelod o bwyllgor rhaglennu Rich Mix Cultural Foundation (2012-2016). Ar hyn o bryd mae Dekan yn Bennaeth Cyfryngau ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain lle mae’n arbenigo mewn newyddiaduraeth chwaraeon, darlledu a’r cyfryngau digidol.

Ymunodd Dekan â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2023.

Kim Shillinglaw

Mae gan Kim Shillinglaw 30 mlynedd o brofiad yn y Cyfryngau, fel Rheolwr BBC2 a BBC4, yn rhedeg busnesau masnachol ar gyfer EndemolShine, ac mewn sawl rôl Comisiynu. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar sawl cwmni, yn cynnwys Natural England, ac yn Ymddiriedolwr yn y sefydliad technoleg Raspberry Pi.

Yn EndemolShine, bu Kim yn arwain cwmnïau masnachol o golled i elw cyn gwerthiant llwyddiannus. Yn BBC2 a BBC4, bu’n gyfrifol am foderneiddio sianeli gyda sioeau poblogaidd fel The Real Marigold Hotel, Inside The Factory, Muslims Like Us a’r comedi sefyllfa trawsryweddol cyntaf ym Mhrydain, Boy Meets Girl. Roedd hi’n gyfrifol am ddarlledu Pêl-droed Menywod, y fenyw gyntaf i gyflwyno QI a chyflwynydd heb fod yn Wyn cyntaf Darlithoedd y Nadolig. Tyfodd frandiau domestig fel Starbazing Live a Springwatch, a rhaglenni poblogaidd rhyngwladol fel Frozen Planet, Africa, Planet Earth II a Blue Planet II. Lluniodd Flwyddyn Wyddoniaeth y BBC a’r ymgyrch allgymorth fwyaf, Make It Digital. Cyn hynny, ym maes Comisiynu Plant, creodd Horrible Histories, cyfres a enillodd sawl gwobr.

Mae Kim wedi cadeirio Bwrdd Economi Greadigol NESTA, Tasglu Incwm Masnachol a Bwrdd Ffeithiol y BBC ac wedi cynghori’r Amgueddfa Wyddoniaeth, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).  Mae hi’n cadeirio Discovery Decade, prosiect Ymchwil a Datblygu.

Ymunodd Kim â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Hydref 2023.

Rachel Coldicutt

Mae Rachel Coldicutt yn arbenigwr ar effaith gymdeithasol technolegau newydd a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â chyfarwyddwr gweithredol yr ymgynghoriaeth ymchwil Careful Industries a’i chwaer fenter gymdeithasol Promising Trouble.

Yn y gorffennol, hi oedd Prif Swyddog Gweithredol y felin drafod technoleg gyfrifol Doteveryone lle bu’n arwain ymchwil arloesol a dylanwadol i sut mae technoleg yn newid cymdeithas, a bu’n datblygu adnoddau ymarferol er arloesi cyfrifol. Cyn hynny, treuliodd bron i 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym maes technoleg newydd i gwmnïau gan gynnwys y BBC, Microsoft, BT a Channel 4, ac roedd yn arloeswr yn y byd celfyddydau digidol. Yn 2019, dyfarnwyd OBE i Rachel yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am wasanaeth i'r gymdeithas ddigidol.

Ymunodd Rachel â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Hydref 2023.

Tobin Ireland

Mae gan Tobin 25 mlynedd o brofiad o weithio fel uwch weithredwr yn y diwydiant cyfryngau digidol. Dechreuodd ei yrfa yn McKinsey & Company ac mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Masnachol BSkyB, Prif Swyddog Marchnata AOL Europe, a Chyfarwyddwr Byd-eang Strategaeth a Datblygu Busnes gyda Vodafone.

Yn ystod ei gyfnod yn Vodafone, bu Tobin yn arwain mentrau byd-eang GSMA ar hysbysebu symudol a phreifatrwydd defnyddwyr, ac ers hynny mae wedi dod yn fuddsoddwr ac ymgynghorydd gweithredol yn y sectorau cyfryngau digidol a data. Mae wedi bod yn Ymgynghorydd Diwydiant Arbenigol i Sefydliad Iechyd y Byd, y Gymdeithas Marchnata Symudol a McKinsey – i gyd yn canolbwyntio ar ddyfodol yr ecosystem data symudol. Mae’n angel buddsoddi mewn dyfeisiau symudol Ewropeaidd, data, AI a busnesau newydd D2C, ac yn aelod anweithredol/cadeirydd ar amrywiaeth o gwmnïau technoleg ac ar-lein, gan gynnwys MetaGravity a Cycomb.

Mae gan Tobin MBA o Ysgol Fusnes i Raddedigion Stanford, MSc mewn Econometreg ac Economeg Fathemategol o’r LSE, a BSc mewn Mathemateg Pur ac Economeg o Brifysgol Bryste.

Ymunodd Tobin â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2023.

Maria McCann

Maria McCann yw'r aelod o'r Bwrdd Cynnwys sy'n cynrychioli buddiannau a barn pobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan Maria dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfathrebiadau a hi yw sylfaenydd McCann Public Relations, practis siambrau sy'n arbenigo mewn cyfathrebiadau Enw Da ac Argyfwng gydag arbenigedd mewn llwyfannau digidol. A hithau'n gyn-newyddiadurwr argraffu a darlledu yn gweithio ar draws y sîn cyfryngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, roedd hi ymhlith yr arloeswyr cynnar yn y sector cynhyrchu teledu annibynnol. Mae ei swyddi Bwrdd blaenorol wedi cynnwys Northern Ireland Screen, Pwyllgor Moeseg Ymchwil Gogledd Iwerddon, ac Oxfam Iwerddon. Mae gan Maria radd meistr yn y gyfraith a Moeseg Feddygol o Brifysgol Keele ac mae'n Is-gadeirydd presennol Cymdeithas Tai Clanmil.

Ymunodd Maria â'r Bwrdd Cynnwys ar 21 Tachwedd 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 20 Tachwedd 2025.

Nodwch fod y cofnodion yn Saesneg yn unig.

Minutes of the 184th meeting of the Ofcom Content Board, held on 3 October 2023 (PDF File, 169.2 KB)
Published 18 December 2023

Minutes of the 183rd meeting of the Ofcom Content Board, held on 4 July 2023 (PDF File, 187.9 KB)
Published 18 December 2023

Minutes of the 182nd meeting of the Ofcom Content Board, held on 2 May 2023 (PDF File, 163.4 KB)
Published 30 August 2023

Minutes of the 181st meeting of the Ofcom Content Board, held on 4 April 2023 (PDF File, 205.1 KB)
Published 30 August 2023

Minutes of the 180th meeting of the Ofcom Content Board, held on 24 January 2023 (PDF File, 215.5 KB)
Published 30 August 2023

Minutes of the 179th meeting of the Ofcom Content Board, held on 22 November 2022 (PDF File, 213.4 KB)
Published 13 April 2023

Minutes of the 178th meeting of the Ofcom Content Board, held on 20 September 2022 (PDF File, 211.0 KB)
Published 13 April 2023

Minutes of the 177th meeting of the Ofcom Content Board, held on 5 July 2022 (PDF File, 189.1 KB)
Published 17 March 2023

Minutes of the 176th meeting of the Ofcom Content Board, held on 3 May 2022 (PDF File, 182.4 KB)
Published 17 March 2023

Minutes of the 175th meeting of the Ofcom Content Board, held on 15 March 2022 (PDF File, 163.1 KB)
Published 19 July 2022

Minutes of the 174th meeting of the Ofcom Content Board, held on 25 January 2022 (PDF File, 184.7 KB)
Published 19 July 2022

Minutes of the 173rd meeting of the Ofcom Content Board, held on 30 November 2021 (PDF File, 185.1 KB)
Published 28 June 2022

Minutes of the 172nd meeting of the Ofcom Content Board, held on 5 October 2021 (PDF File, 169.3 KB)
Published 28 June 2022

Minutes of the 171st meeting of the Ofcom Content Board, held on 6 July 2021 (PDF File, 160.9 KB)
Published 12 April 2022

Minutes of the 170th meeting of the Ofcom Content Board, held on 4 May 2021 (PDF File, 154.8 KB)
Published 18 October 2021

Minutes of the 169th meeting of the Ofcom Content Board, held on 30 March 2021 (PDF File, 170.9 KB)
Published 18 October 2021

Minutes of the 168th meeting of the Ofcom Content Board, held on 26 January 2021 (PDF File, 157.1 KB)
Published 18 October 2021

Minutes of the 166th meeting of the Ofcom Content Board, held on 24 November 2020 (PDF File, 177.1 KB)
Published 14 May 2021

Minutes of the 167th meeting of the Ofcom Content Board, held on 6 October 2020 (PDF File, 157.5 KB)
Published 14 May 2021

Ein polisi yw cadw cofnodion bwrdd a phwyllgor ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gallwch ddod o hyd i'r cofnodion eraill drwy'r Archif Cenedlaethol.

Yn ôl i'r brig