Cynaladwyedd amgylcheddol

Cyhoeddwyd: 7 Mawrth 2023

Sut mae Ofcom yn gweithio i fod yn sefydliad sy'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.

Credwn ei bod yn bwysig lleihau effaith ein busnes ar yr amgylchedd. Gan arwain drwy esiampl, rydym am:

  • helpu i leihau allyriadau carbon cyffredinol y DU, yn unol â Strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU;
  • mabwysiadu a hybu arferion cynaliadwy lle bynnag y gallwn.

Ein gwaith hyd yma

Mae Ofcom wedi ceisio torri ein hallyriadau carbon mewn gwahanol ffyrdd dros y blynyddoedd, ond yn sgil yr argyfwng hinsawdd, roeddem yn teimlo y gallem wneud mwy. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:

  • mabwysiadu polisi amgylcheddol newydd, sy'n dangos ein hymrwymiad i leihau ein heffaith;
  • cael achrediad ISO14001:2015 (System Rheoli Amgylcheddol), gan ein helpu i fabwysiadu ymagwedd fwy systematig at wella ein perfformiad amgylcheddol;
  • parhau i gyflawni'r Ymrwymiadau Llywodraeth Werdd; a
  • chreu Rhwydwaith Hyrwyddwyr Gwyrdd, fel y gall cydweithwyr gyfrannu at ymdrechion sero net Ofcom a dwyn y sefydliad i gyfrif.

Mae Ofcom yn deall ein bod mewn cyfnod heriol o ran effeithiau amgylcheddol byd-eang. Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth ymdrin â bygythiadau i systemau naturiol a bioamrywiaeth ein planed. Mae Ofcom yn ymrwymo i asesu, deall ac yn y pen draw gwella ei pherfformiad amgylcheddol.

Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, byddwn yn datblygu, yn gweithredu ac yn cynnal ISO14001: 2015 System Rheoli Amgylcheddol (EMS).

Ymrwymiadau

  1. Lle bo'n berthnasol i'n gweithrediadau, byddwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol ac yn mabwysiadu polisïau Llywodraeth y DU ar arferion Amgylcheddol gorau. Byddwn ni'n darparu hyfforddiant priodol ar gyfer ein staff, gan sicrhau ein bod yn rheoli ac yn lliniaru ein risgiau amgylcheddol yn ddigonol ac yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd amgylcheddol.
  2. Rydym wedi ymrwymo i atal llygredd ac i isafu'r effaith amgylcheddol, ar gyfer cylch bywyd (gan gynnwys gwaredu): deunyddiau, cynhyrchion, cerbydau, offer, ac unrhyw asedau corfforol eraill o dan ein rheolaeth.
  3. Byddwn ni'n rhoi mesurau rheoli digonol ar waith i ddiogelu'r amgylchedd rhag unrhyw agweddau ac effeithiau amgylcheddol sylweddol sy'n deillio o'n gweithrediadau.
  4. Byddwn ni'n sicrhau bod adnoddau addas yn eu lle i fonitro safonau ac ymrwymiadau ein System Rheoli Amgylcheddol, eu cynnal a'u harchwilio.
  5. Byddwn ni'n sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei gyhoeddi, ei ddarparu a'i gyfathrebu i bawb sydd â diddordeb (gan gynnwys staff, contractwyr a chyflenwyr).
  6. Byddwn ni'n gosod amcanion a thargedau amgylcheddol ac yn eu hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau gwelliant parhaus o'n perfformiad amgylcheddol ac yn ymdrechu i ddileu ein heffeithiau amgylcheddol negyddol.

Rheoli

  1. Bydd ein Bwrdd Gweithrediadau'n gyfrifol am gyflawni'r polisi hwn yn strategol o fewn ein sefydliad.
  2. Byddwn ni'n cynnal rolau a chyfrifoldebau clir ynghylch rheoli amgylcheddol i sicrhau bod y polisi hwn a'n hymrwymiadau yn cael eu cefnogi a'u hymwreiddio'n ddigonol o fewn Ofcom.
  3. Mae'r Polisi hwn yn destun adolygiad blynyddol gan Fwrdd Gweithrediadau Ofcom.

Y camau nesaf

Byddwn yn cynnal ein System Rheoli Amgylcheddol ac yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Yn ôl i'r brig